大象传媒

Canser: Modd osgoi 140 achos wythnosol drwy ffordd o fyw

  • Cyhoeddwyd
Gordewdra

Fe ellid osgoi tua 140 o achosion o ganser yr wythnos yng Nghymru petai bobl yn newid eu ffordd o fyw, yn 么l gwaith ymchwil gan elusen Cancer Research UK.

Mae'r elusen yn rhagweld mai gordewdra fydd y prif ffactor fydd yn arwain at ddatblygu canser dros y blynyddoedd nesaf.

O ran ffactorau sy'n achosi canser y mae modd eu hosgoi, ysmygu oedd yr achos fwyaf yng Nghymru yn 2015.

Yn 么l ffigyrau gan y British Journal of Cancer o 2015, fe wnaeth ysmygu gyfrannu at 1,800 o achosion o'r afiechyd mewn dynion a 1,200 mewn merched y flwyddyn honno.

Yr ail brif ffactor yng Nghymru yw gordewdra, sy'n arwain at tua 1,000 o achosion blynyddol.

'Canlyniadau syfrdanol'

Yn 么l Cancer Research UK mae gordewdra yn gallu achosi 13 math gwahanol o ganser, gan gynnwys canser ar y coluddyn, y fron, y groth a'r aren.

Mae canlyniadau'r ymchwil hefyd yn awgrymu y byddai modd osgoi un o bob 20 achos o ganser yng Nghymru drwy gynnal pwysau iach.

Dywedodd Andy Glyde o Cancer Research UK: "Mae canlyniadau'r ymchwil yn syfrdanol, am y tro cyntaf rydym yn gallu gweld faint o achosion yng Nghymru gallai eu hosgoi drwy beidio ag ysmygu a bod yn iach o ran eich pwysau.

"Mae'n glir o'r ymchwil fod gordewdra yn broblem fawr," meddai.

Dywedodd Jyoti Atri o Iechyd Cyhoeddus Cymru, wnaeth gyfrannu data i'r gwaith ymchwil: "Mae nifer fawr o achosion o ganser yn cael eu cysylltu gyda ffactorau risg mae modd eu hosgoi fel ysmygu a gordewdra.

"Mae'r rhain yn risgiau ar gyfer afiechydon eraill fel clefyd y galon a str么c."