大象传媒

Cleifion 'ddim yn cael eu profi' am enyn canser

  • Cyhoeddwyd
Prawf canser

Mae elusen canser yn dweud y dylai pob un o ysbytai Cymru gynnal profion ar gleifion canser y coluddyn ar gyfer syndrom Lynch, cyflwr sy'n gallu arwain at sawl math arall o ganser.

Dywed Bowel Cancer UK nad yw ysbytai yng Nghymru'n cynnig y prawf ar gyfer y syndrom i bob claf, yn groes i ganllawiau NICE, y corff sy'n gyfrifol am awdurdodi cyffuriau meddygol.

Yn 么l yr elusen, dim ond cleifion risg uchel sy'n cael cynnig y prawf syndrom Lynch ar gost o 拢200.

Y gred yw bod 175,000 o bobl yn dioddef o'r syndrom yn y DU, ond mai dim ond 5% sydd yn ymwybodol o'r cyflwr.

'Angen arweiniad'

Yng Nghymru, dim ond Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf sy'n rhoi profion i gleifion dan 50 oed.

Dim ond Bwrdd Iechyd Cwm Taf a Betsi Cadwaladr sy'n rhoi profion i gleifion canser sydd 芒 hanes o syndrom Lynch yn y teulu.

Dywedodd Lowri Griffiths, pennaeth Bowel Cancer UK yng Nghymru, fod Cymru ar ei h么l hi o ran profion ar gyfer canser y coluddyn a bod angen "arweiniad cenedlaethol".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ymdrechu i sicrhau bod mwy o gleifion yn cael eu profi.