大象传媒

Her newydd Trystan Ellis-Morris

  • Cyhoeddwyd
trystan

Mae Trystan Ellis-Morris yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C. Mae wedi bod yn gyflwynydd rhaglenni plant ers dros ddegawd, yn ogystal 芒 phrif ddigwyddiadau'r haf ar S4C - o'r Urdd i Eisteddfod Llangollen, C芒n i Gymru a Priodas Pum Mil.

Ond o ddydd Sadwrn 7 Ebrill, mi fydd yn cychwyn cyflwyno rhaglen radio, a hynny am y tro cynta' erioed...

"Dyma'r tro cynta' i fi gyflwyno rhaglen radio, paid a gofyn pam eu bod nhw 'di gofyn i fi!" meddai Trystan, llais newydd Y Sioe Frecwast ar fore Sadwrn ar 大象传媒 Radio Cymru 2 am yr wyth wythnos nesa'.

"Dwi'n falch i gael y cyfle i wneud rhywbeth gwahanol, mae hynny'n bwysig. Dwi am fod yn fi fy hun, a gobeithio bydd pobl yn gyfforddus yn gwrando ar y rhaglen.

"Fe fydd hwn yn luxury achos dwi'n hen gyfarwydd 芒 deffro am 4 o'r gloch ar fore Sadwrn i fod yn y stiwdio erbyn 5. Byddai'n gallu codi a dod i'r gwaith yn fy tracksuit a beanie heb eistedd mewn cadair golur am oriau."

Tua tair blynedd yn 么l, daeth trobwynt ym mywyd Trystan. Wedi degawd yn gweithio yng Nghaerdydd yn cyflwyno rhaglen Mosgito gyda 大象传媒 Cymru, ac yn un o wynebau cynnar gwasanaeth Cyw, cafodd ei daro'n s芒l. Roedd y cyfnod hwnnw wedi rhoi amser iddo feddwl, meddai, a dilyn breuddwyd a symud i Lundain.

Trobwynt

"Fe wnes i ddal feirws Cryptosporidium, wnaeth o ymosod ar fy ngorff i'n eitha sydyn ac yn violent, ac o'n i'n s芒l am gyfnod hir o amser. R'on i bron hanner fy seis gwreiddiol ac oedd hi'n amser anodd iawn i'r teulu - pan ma' doctoriaid yn galw ar y teulu ac yn dweud bod y 24 - 48 awr nesa' am fod yn dyngedfennol. Wedi dod trwy hwnna wnes i feddwl, ella mai dyma'r amser.

"Roedd Llundain wastad wedi bod yn dynfa, a'r bwriad gwreiddiol oedd i fynd yno i wneud cwrs 么l-radd. Ond fe ges i swydd yn cyflwyno Mosgito yng Nghaerdydd, felly roedd y syniad o fyw yn Llundain 'di cael ei roi ar y back burner. Fe fues i'n cyflwyno Cyw wedyn am flynyddoedd.

"Ond pan es i'n s芒l roedd yn rhaid i fi gymryd amser off gwaith ac es i adre' i'r gogledd. Ar 么l hynny wnes i benderfynu gadael Cyw a symud i Hammersmith.

"Gan mod i'n freelance dwi naill ai'n gweithio'n wyllt wirion neu'n cael dyddiau i ffwrdd felly dwi'n mwynhau mynd i redeg ar hyd yr afon, mynd i'r theatr, arddangosfeydd a mynd am dro. Beth sy' 'na ddim i' fwynhau yma?

"Dwi'n byw efo dwy ferch Gymraeg felly dwi'n siarad fwy o Gymraeg yn Llundain na Saesneg! Mae 'na gymdeithas rili da ohonon ni yma, a mae ganddon ni grwp WhatsApp ac yn trio gweld ein gilydd bob mis.

"Dim ots lle mae dy draed di, mae nghalon i dal yng Nghaerdydd ac adre'."

Yn ddiweddarach eleni, mi fydd Trystan yn gweithio ar y "gyfres orau mae wedi gweithio arni erioed", sef cyflwyno trydedd cyfres o Priodas Pum Mil, gyda Emma Walford. Mae'r ddau'n helpu i drefnu priodasau cyplau ar draws Cymru am 拢5,000.

"O bosib dyma'r gyfres fwya' hwyliog a'r orau dwi erioed 'di gweithio arni. Does 'na ddim actio, does 'na ddim ail gyfle, mae beth 'dach chi'n ei weld yn digwydd go iawn a mae gweithio efo Emma yn sbeshal.

"Mae'n gymaint o laugh ond mae'n anodd hefyd, mae'n oriau 16 - 17 awr y dydd yn arwain fyny at y briodas. Mae'n gyfrifoldeb mawr ond mae mor rewarding."

"Dwi'n berson pobl. Dwi'n diddori mewn pobl gwahanol a dyna dwi'n edrych ymlaen at ar fy rhaglen radio, i gael sgwrs hirach a mwy hamddenol efo pobl, heb orfod torri i hysbysebion neu ruthro cymaint, fel sy'n gallu digwydd ar raglenni teledu byw."

Hefyd o ddiddordeb: