大象传媒

Scarlets yn rownd gynderfynol Cwpan Ewrop

  • Cyhoeddwyd
patchellFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhys Patchell gafodd y cais cyntaf hollbwysig i'r Scarlets

Scarlets 29-17 La Rochelle

Roedd yna ddigon o adloniant, ond mwy fyth o nerfusrwydd i'r dorf ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener wrth i ddau d卯m anturus fynd ben-ben yn rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Er hynny troed Leigh Halfpenny oedd yn gyfrifol fod y Scarlets ar y blaen ar yr egwyl o 12-10 gyda phedair g么l gosb.

Wedi'r gyntaf o'r pedair, daeth cais dadleuol i'r ymwelwyr. Doedd dim sicrwydd bod y b锚l wedi'i thirio gan Romain Sazy, ac er nad oedd hi'n ymddangos bod gan y dyfarnwr fideo olygfa well o'r digwyddiad, fe gafodd y cais ei ganiat谩u.

Gyda throsiad Alexi Bales yn ymestyn mantais La Rochelle, daeth ergyd arall i'r Scarlets pan fu'n rhaid i Paul Asquith adael y maes gydag anaf. Daeth penderfyniad rhyfedd gan yr hyfforddwr Wayne Pivac pan ddaeth y blaenwr Macleod i'r maes yn lle'r asgellwr, gyda James Davies yn symud i'r olwyr.

Fe gostiodd diffyg disgyblaeth yn ddrud i La Rochelle wrth i Halfpenny fanteisio o dri chynnig arall at y pyst i roi'r Scarlets ar y blaen o bum pwynt cyn i Bales gau'r bwlch gyda g么l gosb ei hun cyn yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Anaf arall

Yn y g锚m olaf yn y grwpiau, fe welwyd ymdrech arwrol gan amddiffyn y Scarlets i gadw mantais fain yn erbyn Toulon - roedd hi'n ymddangos y byddai angen ymdrech debyg yn Llanelli.

Daeth ergyd arall i'r Scarlets yn gynnar yn yr ail hanner pan gafodd Steff Evans ergyd drom i'w ben, a bu'n rhaid i'r ail asgellwr adael y maes, ond yn yr un symudiad fe ddaeth cic gosb arall gyda Halfpenny'n ymestyn y fantais i 15-10.

Roedd moment oedd yn ymddangos yn allweddol wedi 54 munud. Fe gafodd La Rochelle feddiant a chyfres o gosbau yn agos i linell gais y Scarlets.

Dewisodd yr ymwelwyr fynd am y lein fwy nag unwaith er mwyn mynd am gais, a phan lwyddodd y Scarlets i gipio'r meddiant, daeth bloedd fwyaf y prynhawn ar Barc y Scarlets.

Ail gais allweddol

Fe dorrodd hynny ysbryd La Rochelle am gyfnod, ac wedi 61 munud fe groesodd Rhys Patchell yn y gornel am gais cynta'r Scarlets. Gyda throsiad llwyddiannus Halfpenny, roedd mantais y Scarlets yn 22-10.

Ond yn 么l y daeth La Rochelle. Wedi cyfnod o bwysau, fe welodd Will Boyde gerdyn melyn, ac roedd rhaid i'r Scarlets amddiffyn y deng munud olaf gydag un dyn yn brin.

Gydag wyth munud yn weddill, mi fethodd Halfpenny gyda chic fyddai wedi golygu bod angen i La Rochelle sgorio deirgwaith, ond doedd dim angen poeni.

Daeth ail gais y Scarlets i Scott Williams gyda phum munud yn weddill. Gyda throsiad hawdd Halfpenny'n ei gwneud hi'n 29-10, fe ddechreuodd y dathliadau.

Roedd amser o hyd i'r ymwelwyr gael cais cysur, ond roedd 80 munud ar ben, a'r Scarlets oedd biau'r fuddugoliaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y capten Ken Owens oedd Seren y G锚m

Doedd dim syndod pan ddaeth y cyhoeddiad mai capten y Scarlets, Ken Owens, oedd Seren y G锚m, a dywedodd ar ddiwedd yr ornest:

"Dwi mor falch o'r bechgyn. Doedden ni ddim ar ein gorau heddi' ond fe wnaethon ni beth oedd rhaid ei 'neud.

"Mae e wedi bod yn 11 mlynedd hir {ers i'r Scarlets gyrraedd y rownd gynderfynol} i fod yn 么l fan hyn.

"Dwi mor falch o'r ymdrech gan bawb i'n cael ni i fan hyn, ac fe allwn ni fentro breuddwydio nawr.

"Mae'n golygu popeth i fi!"

Bydd y Scarlets yn wynebu naill ai'r Saracens (yn Coventry) neu Leinster (yn Nulyn) yn y rownd gynderfynol.