Slyri yn cau traeth poblogaidd yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae traeth poblogaidd yng Ngheredigion ar gau i'r cyhoedd ar 么l i slyri fferm lygru nant sy'n llifo i'r traeth.
Fe wnaeth swyddogion amgylcheddol o Gyngor Sir Ceredigion y penderfyniad i gau Traeth Dolau yng Nghei Newydd am resymau iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Mae arwyddion yn rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw nes bydd gwybodaeth bellach yn cael ei ryddhau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Yn dilyn gollyngiad slyri ar Draeth Dolau nos Wener, rydym wedi penderfynu cau'r traeth nes bydd gwybodaeth bellach, am resymau iechyd a diogelwch y cyhoedd.
"Rydym yn cynghori'r cyhoedd i gadw draw o'r ardal."