大象传媒

Canu gwlad: Y gerddoriaeth 'danddaearol' newydd?

  • Cyhoeddwyd
Y Welsh Whisperer: Yn llenwi neuaddau yn gyson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Welsh Whisperer: Un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru?

Un cwyn sydd gan nifer o artistiaid yng Nghymru yw ei bod hi'n anodd iawn erbyn hyn i ddenu pobl o'u cartrefi i nosweithiau adloniant neu gigs.

Ond mae'n ymddangos bod neuaddau pentref a thafarndai Cymru'n dal i fod yn llawn i'r ymylon gyn belled 芒 bod canu gwlad yn y cwestiwn.

Felly beth yw'r gyfrinach? Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda rhai o'r wynebau ifanc, newydd sy'n si诺r bod canu gwlad yn ffynnu...

Mae'r Welsh Whisperer wedi datblygu'n gyflym i fod yn un o brif artistiaid byw Cymru drwy gyfuniad o ganeuon bachog a geiriau llawn hiwmor. Pa mor allweddol yw cynnig adloniant ar fwy nag un lefel?

"Pan ddechreuais i o'n i'n canu caneuon gwerinol gydag alawon adnabyddus o Iwerddon ac yn ysgrifennu geiriau doniol iddyn nhw oedd yn hollol wahanol i'r hyn oeddynt yn s么n amdano'n wreiddiol," meddai.

"Felly oedd, roedd y comedi'n bwysig, ond roedd rhaid i'r gerddoriaeth fod yn fachog ac yn hwyliog fel bod pobl yn medru mwynhau hwnnw hefyd. Y syniad oedd bwrw dau aderyn ag un garreg.

"Un peth difyr fi wedi ffeindio yw bod fi'n cael ymateb gwahanol gan wahanol bobl. Weithiau bydd cynulleidfa'n chwerthin yn braf ar y j么cs sydd yn y geiriau, ond weithiau wedyn, fydd pawb yn dawel ac yn mwynhau'r gerddoriaeth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Welsh Whisperer yn diddanu ar lwyfan

Mae'r deuawd Gethin F么n a Glesni Fflur o ardal Dyffryn Nantlle wedi bod yn perfformio'n gyson ers cael hwb gan John ac Alun yn y Galeri tua blwyddyn a hanner yn 么l.

"Roedd Gles wedi bod yn canu backing vocals ar Noson Lawen a gwnaeth John ac Alun ofyn iddi fod yn ail lais ar eu CD diweddaraf," meddai Gethin.

"O'n i'n nabod John ac Alun ers i mi gyfarfod nhw yng ng诺yl canu gwlad Gwlad y G芒n yn Llandudno. Gan fod nhw'n gwybod fod Gles a fi'n gariadon, wnaethon nhw gynnig i ni berfformio ambell i g芒n cyn eu cyngerdd yn y Galeri ym mis Medi 2016.

"O'r noson honno ddaeth pobl ymlaen i ofyn i ni berfformio fan hyn a fan draw a cyn i ni wybod, roedden ni'n perfformio'n rheolaidd.

"'Da ni hyd yn oed wedi perfformio yn y Bluebird Caf茅 yn Nashville. Nes i ddechra' sgwrsio gyda'r g诺r 'ma ar yr awyren pan roedd Gles a fi ar ein gwyliau yn America, a drodd allan i fod yn gitarydd i Alison Krauss, un o'r artistiaid canu gwlad fwyaf enwog yn y byd.

"I dorri stori hir yn fyr, mi lwyddon ni i gael slot i ganu'r noson wedyn. Felly dyna fel buodd hi.

"Ar 么l canu, gawson ni gynnig canu mewn llefydd eraill o gwmpas Nashville ac mi drodd allan i fod yn bach o working holiday!

"'Da ni allan yn perfformio ar gyfartaledd tair neu bedair gwaith yr wythnos ac yn perfformio slot rheolaidd yn Nant Gwrtheyrn. Felly mae'n brysur iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gethin a Glesni ar eu 'taith' o America yn perfformio yn Kimbros Caf茅, Franklins, Nashille

Mae'r Welsh Whisperer yr un mor brysur, ac yn mwynhau amrywiaeth o gynulleidfaoedd.

"Byddai'n cymryd bookings am bob math o wahanol nosweithiau, gyda'r potensial am bob math o gynulleidfa gan wybod bydd rhai'n nosweithiau cerddoriaeth a rhai'n nosweithiau le'r comedi fydd mwyaf pwysig.

"Weithiau, os yw'r neuadd gyda rhyw 250 o bobl, bydd ambell i ardal yn y gynulleidfa'n chwerthin, bydd rhan arall yn siglo i'r miwsig... does dim dal.

"Mae hwn yn fath o adloniant unigryw Cymreig ac yn gweithio ar lefel lleol iawn. Mae'n codi o'r ardaloedd lleol, mae'r hiwmor yn aml yn troi o gwmpas cymeriadau lleol neu'r math o gymeriadau sy'n bodoli."

Canu gwlad v pop Cymraeg

Felly sut mae'r byd canu gwlad yn llwyddo i ddenu cynulleidfa ar adeg pan mae eraill yn dioddef?

"Mae'r byd pop, er enghraifft, yn ceisio ail greu math o gerddoriaeth sydd ag adnoddau sylweddol tu 么l iddo'n fyd eang ac mae'n anodd cystadlu," meddai'r Welsh Whisperer.

"Gyda'r math o beth ni'n gwneud, mae'r geiriau am bynciau sy'n berthnasol i'r gynulleidfa ac mae'r gerddoriaeth hefyd yn llawer agosach at adre' ac yn swnio'n dda'n fyw.

"Mae offerynnau fel accordions yn swnio'n wych pan chi'n yr un ystafell ac felly mae bron yn sicrhau noson dda... dyna i fi yw'r gwahaniaeth."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'r teledu mor bwysig i gyrraedd cynulleidfa ehangach."

Mae Gethin yn cytuno: "Mae'n braf bod y cyngherddau yma'n cael eu cynnal yn lleol, mewn neuaddau pentref gan fudiadau lleol. Mae'n braf er mwyn y gymdeithas a'r iaith i fod yn rhan o rywbeth sydd mor bwysig.

"'Da ni'n tueddu i gynnal nosweithiau lle mae pobl yn eistedd lawr ac yn gwrando ar y caneuon ac oherwydd hynny, ac oherwydd i ni dueddu i berfformio mewn awyrgylch fel hynny, 'da ni'n gwerthu lot o CDs ar y noson.

"O'n i'n sgwrsio gydag Yws Gwynedd ac yn cymharu'r nifer o CDs oedd y ddau ohonom ni'n gwerthu ar noson dda, ac roedd o'n synnu faint mwy o'n ni'n medru gwerthu o gymharu!"

Dim digon o sylw cenedlaethol?

Ond dyw'r sefyllfa ddim yn f锚l i gyd. Fel deuawd gymharol newydd, mae Gethin a Glesni'n gweld fod hi'n anodd iawn cael sylw cenedlaethol.

"Mae'r teledu mor bwysig i gyrraedd cynulleidfa ehangach," meddai Gethin.

"'Da ni'n hyrwyddo ein hunain ar ein tudalen Facebook, er enghraifft, ond nid pawb sy' ar Facebook ac nid pawb sy'n ymwneud 芒'r we. Mae 'na ddiffyg rhaglenni sy'n rhoi llwyfan i fandiau fel ni.

"Os fyddwn ni'n ymddangos ar Heno neu Noson Lawen, mae pobl yn siarad amdano ac mae'n cael effaith.

"Weithiau fyddai'n trefnu gigs fy hun, yn Neuadd Nantlle a dwi'n gwybod os drefna'i gig yno, mae'n dal 40 a medra'i gael 40 yno ar y noson."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn yr oes ddigidol, gwerthiant CDs yw bara menyn artistiaid fel 'Geth a Gles' o hyd

Ond mewn cyfnod o fiwsig amgen, ydy'r nosweithiau'n cael y gydnabyddiaeth haeddiannol yn y cylchoedd cerddorol Cymraeg?

"Mewn nifer o achosion, mae'r bobl sy'n trefnu ac yn mynychu yn ddim byd i wneud gyda Facebook a Twitter," meddai'r Welsh Whisperer.

"Yn aml, fi'n derbyn gig ac yn gweld poster bach A4 wedi'i greu ar Word a Clipart a dyna'r unig hysbysebu... a bydd y neuadd yn llawn."

Mae Gethin yn teimlo mai'r math yma o gerddoriaeth sydd agosaf at galonnau'r Cymry.

"Mewn canu gwlad mae'r geiriau yn bwysig iawn ac yn gorfod adrodd stori," meddai.

"Efallai bod hi'n g芒n hapus, efallai bod hi'n g芒n drist ond mae canu gwlad yn gallu gwneud rhywbeth i chi, a dim ond canu gwlad sydd efo'r p诺er yna."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Noson brysur arall i Geth a Gles