大象传媒

Skates: 'Rhaid symud nwyddau'n ddirwystr' ar 么l Brexit

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Caergybi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Porthladd Caergybi yn un o'r prysuraf yn y DU

Rhaid i nwyddau a phobl allu symud yn ddirwystr trwy borthladdoedd Cymru ar 么l Brexit rhag niweidio economi Cymru, medd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates.

Daw ei sylwadau dair wythnos ar 么l i aelodau o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain alw am statws arbennig i nwyddau sy'n dod i mewn i borthladdoedd Cymru.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 53.6 miliwn o dunelli o nwyddau'n dod trwy borthladdoedd Cymru pob blwyddyn - rhyw 11% o gyfanswm y DU.

Daeth 524,000 o lor茂au a threlars i borthladdoedd Cymru o Weriniaeth Iwerddon yn 2016, gyda'r mwyafrif llethol yn pasio trwy borthladd Caergybi.

'11,000 o swyddi'

Mae Gr诺p Porthladdoedd Cymru'n amcangyfrif bod rhyw 11,000 o swyddi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gysylltiedig 芒 phorthladdoedd Cymru.

Maen nhw wedi galw am i borthladdoedd Cymru gael statws arbennig - statws yn golygu na fyddai'n rhaid talu trethi na thollau ar nwyddau crai fyddai wedi eu mewnforio tra'u bod yn y parth hwnnw.

Dim ond ar 么l i'r nwyddau gael eu troi'n gynnyrch o ansawdd uwch a gadael y parth y byddai'n rhaid talu trethi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am wneud yn si诺r na fydd y cytundeb rhwng y DU a'r UE yn amharu ar fasnach a'i fod yn cynnwys mynediad llawn at Farchnad Sengl Ewrop ac aelodaeth o undeb dollau er mwyn amddiffyn economi Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ken Skates bod angen i'r llywodraeth fod yn agored i gadw "ffin feddal" rhwng Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon

Dywedodd Mr Skates: "Mae porthladdoedd Cymru'n chwarae rhan bwysig ym mywyd masnachol y wlad ac yn economi'r DU yn wir, fel y porth i hybiau economaidd yng Ngweriniaeth Iwerddon, y DU, gweddill Ewrop a'r byd.

"Maen nhw'n cynnal miloedd o swyddi a rhaid gofalu nad yw Brexit yn eu bygwth.

"Rhaid i unrhyw gytundeb rhwng y DU a'r UE gadw trefn ar gyfer symud pobl a nwyddau sydd fan leiaf ddim yn fwy beichus na'r drefn o dan yr Undeb Tollau presennol.

"Gallai unrhyw newid i'r rheolau tollau sy'n ychwanegu at gostau, amser, anghyfleustra a rheoliadau gael effaith ar economi Cymru.

"Mae 80% o'r nwyddau a gludir rhwng Iwerddon ac Ewrop mewn lor茂au sydd wedi'u cofrestru yn y Weriniaeth yn pasio trwy borthladdoedd Cymru."

'Ffin feddal'

Ychwanegodd bod yn rhaid i Lywodraeth y DU fod yn agored i gadw "ffin feddal" rhwng Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon.

"Ni fydd Llywodraeth Cymru'n barod i dderbyn unrhyw ganlyniad allai ddenu traffig i ran arall o'r DU ar draul porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro," meddai.

Yr UE yw marchnad fwyaf Cymru, gyda 60% o'r holl nwyddau a allforiwyd o Gymru yn 2017, gwerth 拢16.3bn, yn mynd i'r UE.