大象传媒

Y dyn sy'n helpu cleifion canser trwy ddawns

  • Cyhoeddwyd
cai

Mae Cai Tomos o Ddolgellau yn ddawnsiwr proffesiynol sydd wedi perfformio ar lwyfannau ledled y byd.

Ond mae hefyd yn defnyddio ei sgiliau a'i wybodaeth am ddawns i helpu pobl sy'n mynd drwy anawsterau corfforol, meddyliol ac ysbrydol.

"Nes i astudio celfyddydau perfformio yng Ngholeg Meirion Dwyfor blynyddoedd yn 么l, a ges i ryw gyflwyniad i ddawns yr adeg yna," meddai.

"Es i 'mlaen i hyfforddi dawns cyn ymuno 芒 chwmni dawns, tra'n dal i archwilio gwaith fy hun fel artist annibynnol. Dwi 'di bod yn cynnal workshops neu berfformio yn annibynnol ers 2001."

Wedi iddo raddio aeth Cai ati i weithio yn Ne America: "Dawns theatr oedd fy mherfformiadau i, ac wedi i mi orffen fy ngradd ges i swydd yn Uruguay.

"Dwi 'di bod yn gweithio yn Sbaen dros y ddwy flynedd diwethaf gyda gwahanol gwmn茂au."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o sesiynau hyfforddi Cai

Tra'n gweithio fel dawnsiwr proffesiynol fe astudiodd Cai radd Meistr seicotherapi celf ac roedd am ddefnyddio ei sgiliau i helpu eraill: "Ges i brofiad personol o iselder blynyddoedd yn 么l, ac mi nes i ddefnyddio celf i wella fi fy hun, drwy beintio neu ddawnsio.

"Doeddwn i ddim yn dilyn cyngor penodol, nes i hyn yn naturiol fy hun gan 'mod i'n artist a nes i sylweddoli bod lot o'r atebion o'n i eu hangen yn dod drwy'r celfyddydau.

"O'n i'n teimlo'n well wrth wneud rhywbeth creadigol a nes i hyfforddi fel therapydd celf i allu gweithio efo bobl un wrth un. Gan 'mod i 'di mynd drwyddo fy hun dwi'n gwybod sut mae'n teimlo ac yn deall rhywfaint o'r anghenion."

Mae Cai yn ymdrin 芒 chleifion sydd 芒 phob math o anghenion corfforol ac emosiynol.

"Dwi wedi bod yn gweithio mewn ysbytai, a'r peth cyntaf i 'neud ydi cael sgwrs a gweld lle maen nhw arni - os ydyn nhw mewn poen, yna ti'n gwahodd nhw i wneud gwaith corfforol.

"Dwi'n defnyddio'r b锚l mawr 'ma a dwi'n rolio fo ar eu corff nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cai yn gweithio gyda chlaf yn Ysbyty Chelsea a Westminster yn Llundain

Mae Cai yn credu bod r么l therapydd yn gallu bod yn wahanol mewn sefyllfaoedd ac yn dibynnu'n llwyr ar anghenion y claf.

"Gwaith y therapydd ydi i fod yna gymaint 芒 phosib i rywun, a thiwnio dy hun i'w anghenion nhw.

"Mae 'dawns' bach yn gamarweiniol achos i fod o ddifri dwi'n helpu pobl gysylltu efo rhannau o'r corff sydd ddim mewn poen ac yn atgyfnerthu eu cyrff. Dwi'n helpu pobl sydd yn delio efo sioc ac yn trio ymlacio'r nervous system.

"Mae pobl eisiau'r cysylltiad dynol, hyd yn oed ond gafael yn eu llaw nhw, achos yn aml iawn does gan y nyrsys a'r doctoriaid ddim yr amser gan fod nhw mor brysur. Dwi'n gweithio efo bobl h欧n sydd efo dementia, a hefyd bobl ifanc sy'n trio dod dros ganser."

Er ei fod yn byw yn Llundain ers degawd bellach mae Cai yn rhedeg dosbarthiadau yng ngogledd Cymru ac yn dod adref yn aml.

"Dwi'n rhedeg gr诺p misol o'r enw Cain yng Nghaernarfon ers saith mlynedd," meddai. "Menywod mewn oed sy'n dod i Cain yn bennaf a dwi'n rhedeg gr诺p cymunedol arall yno hefyd o'r enw Estyn Eto hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros ddwsin o aelodau o'r gr诺p Cain yn cyfarfod yng Nghaernarfon bob mis

Ydy Cai yn teimlo fod therapi a chefnogaeth greadigol yn cael digon o sylw?

"Mae 'na fwy o ymwybyddiaeth dyddiau 'ma o'r ffaith bod triniaeth claf ddim ond i'w wneud efo'r meddygol a'r corff, bod yna elfennau emosiynol ac ysbrydol hefyd.

"Mae gwneud rhywbeth creadigol yn helpu rhywun cael eu dychymyg yn 么l, ac efo dychymyg ti'n gallu meddwl am y dyfodol a dychmygu a chael ffydd y bydd pethau'n well rhyw ddydd. Mae canlyniadau gweladwy i'w gweld o ddefnyddio'r celfyddydau i helpu rhywun.

"Mae'r math yma o driniaeth yn cymryd amser i gael ei dderbyn gan y cyhoedd, ac yn aml mae dadl yn cael ei gyflwyno fel 'Y Celfyddydau v Gwyddoniaeth' - mi ddylai nhw fod yn cydweithio efo'i gilydd achos bod 'na ddau beth gwahanol i'w gynnig.

"Byswn i'n hoffi gweld y celfyddydau'n cael ei barchu i lefel lle does dim rhaid efallai rhoi gymaint o gyffuriau allan ar bresgripsiwn, a bod grwpiau celfyddydau'n cael eu hybu mwy."