大象传媒

Carcharu dau am ecsbloetio merch fregus yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Fesal Mahamud a Mahad YusufFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Fesal Mahamud a Mahad Yusuf eu carcharu am gyfanswm o 19 mlynedd

Mae dau aelod o gang o Lundain wedi cael eu carcharu ar 么l cyfaddef eu bod wedi masnachu dynes ifanc fregus a'i gorfodi i gludo a gwerthu herion yn Abertawe.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mahad Yusuf a Fesal Mahamud wedi dod i gysylltiad 芒'r ddynes 19 oed trwy wefannau cymdeithasol gan wneud addewid o roi gwaith iddi.

Ond ar 么l iddyn nhw gyrraedd Cymru fe wnaethon nhw ymosod arni a'i dal yn groes i'w hewyllys.

Cafodd Mahamud, 20 oed o Enfield, ddedfryd o 10 mlynedd o garchar, a Yusuf, 21 oed o Edmonton, ddedfryd o naw mlynedd dan glo.

Roedd y ddau wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o ddefnyddio person ifanc er mwyn eu hecsbloetio o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, ac o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Canolbwynt yr ymchwiliad dan arweiniad Heddlu'r Met oedd llwybr rhwng Llundain ac Abertawe oedd yn cael ei reoli gan gang stryd o Lundain - tacteg sy'n cael ei alw'n County Lines.

Dyma'r term sy'n cael ei ddefnyddio pan mae gangiau mewn dinasoedd mawr yn cyflenwi cyffuriau i werthwyr mewn dinasoedd neu drefi llai.

Profiad 'erchyll'

Wedi cyrch yn sgil amheuon bod cyffuriau Dosbarth A yn cael eu gwerthu o fflat yn Abertawe, fe ddaeth yr heddlu o hyd i ferch 19 oed o Lundain oedd wedi mynd ar goll.

O edrych trwy negeseuon ar-lein roedd yn bosib i swyddogion weld sut y cafodd y ferch ei thwyllo i gwrdd 芒'r dynion a chael ei gorfodi i deithio i de Cymru.

Dywedodd Yusuf ei fod yn "berchen" arni. Fe gafodd ei ff么n ei ddinistrio a cafodd ei chadw yn y fflat am bythefnos.

Bu'n rhaid i'r ferch byw mewn budreddi yn y fflat yng Nghwrt Jeffreys yn ardal Penlan - eiddo oedd heb wres na thrydan.

Clywodd y llys hefyd iddi gael ei gorfodi i guddio cyffuriau tu mewn i'w chorff ar sawl achlysur, er y peryglon difrifol i'w hiechyd.

Roedd ei phrofiad yn un "erchyll", yn 么l arweinydd ymchwiliad yr heddlu.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rick Sewart: "Yn anffodus, dyw'r achos yma ddim yn un unigryw. Mae cyflenwyr cyffuriau yn ecsbloetio unigolion bregus ar draws y wlad drwy County Lines."