Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynyddu grant ar gyfer disgyblion ifanc difreintiedig
Bydd grant sydd wedi'i anelu at blant difreintiedig yn cynyddu yn 么l yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
Fe fydd y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar yn codi o 拢600 i 拢700 ar gyfer pob disgybl cymwys.
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y bydd y buddsoddiad ychwanegol o fudd i 15,000 o ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen.
Daw'r cyhoeddiad ddydd Sadwrn wrth i aelodau'r blaid ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd y gwanwyn.
'Lleihau'r bwlch cyrhaeddiad'
Cafodd y Grant Datblygu Disgyblion ei gyflwyno yn 2012 fel rhan o gytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y tymor Cynulliad diwethaf.
Mae'n darparu rhagor o arian i ysgolion yn ddibynnol ar nifer y disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a nifer y plant sydd mewn gofal.
Mae'r grant gwerth 拢1,150 ar gyfer pob disgybl rhwng Blwyddyn 1 ac 11, ac mae'r ffigwr ar gyfer plant sy'n iau na hyn wedi codi i 拢700.
Dywedodd Ms Williams, unig AC y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion wrth galon ein nod cenedlaethol i godi safonau."
Wrth annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, ei bod am sicrhau bod "tegwch a rhyddid" yn flaenoriaeth i wleidyddiaeth Cymru.
Dywedodd bod "dim gwadu" bod y blaid wedi cael cyfnod anodd, a bod brwydr galed o'u blaenau.
Dim ond un AC a 62 o gynghorwyr sydd gan y blaid yng Nghymru bellach, a does ganddyn nhw ddim AS yma.
'Radical a blaengar'
Dywedodd ei bod yn bwysig fod pobl yn gwybod am safbwynt y blaid ar Brexit.
"Mae gan bobl yr hawl i benderfynu fod y math o Brexit yr ydym yn carlamu tuag ato o bosib y penderfyniad anghywir ar gyfer ein gwlad."
Ychwanegodd nad oedd Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE ar unrhyw gost.
"Mae'n rhaid siarad 芒 phobl yngl欧n 芒 Brexit a pheidio bod ofn gwneud penderfyniadau anodd."
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru bod y blaid angen canolbwyntio ar "ddau neu dri pholisi allweddol" i ddenu pleidleiswyr Cymru yn 么l at y blaid.
"Mae'n rhaid i ni fod yn radical a blaengar, cymryd ambell i risg a bod yn feiddgar," meddai.