大象传媒

'Angen mwy o brentisiaethau Cymraeg' medd ymgyrchwyr

  • Cyhoeddwyd
Coleg Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi 拢10m i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Mae'r gymdeithas yn dweud bod ffigyrau 2014/15 yn dangos mai dim ond 0.3%, neu 140 prentisiaeth, gafodd eu cwblhau yn y Gymraeg o gyfanswm o 48,345.

Y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd yn y buddsoddiad mewn prentisiaethau.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y pryd, bod y swm o "拢260m dros y ddwy flynedd yn adeiladu ar y llwyddiant ac yn galluogi [y llywodraeth] i gwrdd 芒'i hymroddiad i greu 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod oes y Cynulliad presennol".

Ddiwedd mis Rhagfyr dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai r么l y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ehangu i gynnwys colegau addysg bellach a'r sectorau dysgu sy'n seiliedig ar waith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ym mis Rhagfyr dywedodd Kirsty Williams fod ehangu r么l y Coleg Cymraeg yn "gam pwysig" at sicrhau cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

Pryder Cymdeithas yr Iaith yw "nad oes cyhoeddiad wedi bod am arian ychwanegol i'r Coleg er mwyn iddo allu cynyddu darpariaeth Gymraeg yn y sector".

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg mae Toni Schiavone, Cadeirydd Gr诺p Addysg Cymdeithas yr Iaith yn nodi: "Mae'r diffyg darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn destun pryder mawr iawn i ni - mae 0.3% yn chwerthinllyd o isel.

"Mae'r llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny'n gwbl gywir, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu gweithio yn Gymraeg."

Yn ei lythyr bydd Toni Schiavone yn galw ar y llywodraeth i glustnodi 拢10m o'r gyllideb prentisiaethau, o dros 拢111.5m, i fod dan reolaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019/20 er mwyn sicrhau mwy o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd: "Ni fyddai'r polisi hwn yn costio i'r llywodraeth yr un ceiniog ychwanegol - mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai fe.

"Fodd bynnag, byddai'r penderfyniad yn galluogi gweddnewid y sefyllfa er lles y Gymraeg a'i lle yn y gweithle.

"Credwn y byddai nifer o fuddion yn deillio o fabwysiadu'r polisi hwn - byddai o fudd i sefydliadau a chwmn茂au sydd am wella eu darpariaeth Gymraeg a byddai o fudd ieithyddol, addysgol a diwylliannol i'r myfyrwyr."

Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd bod "swyddogion mewn cyswllt cyson gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bod yna fwrdd cynghori wedi'i sefydlu, sy'n cynnwys rheolwyr o'r sector Addysg Bellach, i gasglu barn y coleg am y gefnogaeth sydd ei hangen i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg".