Arweinydd UKIP, Neil Hamilton yn amddiffyn Enoch Powell
- Cyhoeddwyd
Mae'r syniad fod Enoch Powell yn "ddihiryn hiliol" yn "nonsens pur", yn 么l arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton.
Roedd Mr Hamilton yn amddiffyn araith Powell 50 mlynedd yn 么l, pan rybuddiodd yn erbyn derbyn mewnfudwyr i Brydain, gan ddweud y gallai arwain at "afonydd o waed".
Dywedodd wrth y 大象传媒 bod sylwadau'r cyn-AS Ceidwadol "wedi cael eu profi'n gywir gan ddigwyddiadau diweddar" yn nhermau newidiadau cymdeithasol.
Mae aelod Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi cyhuddo Mr Hamilton o sicrhau fod "rhethreg hiliol Powell yn parhau'n fyw" tra bod Hefin David, AC Llafur, wedi dweud bod ei sylwadau'n "gywilyddus".
Daw'r drafodaeth ar 么l i gyn-ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Hain, ddweud bod rhai o'r safbwyntiau yng Nghymru adeg y refferendwm Ewropeaidd yn adlais o gynnwys yr araith honno.
Profi'n gywir
"Mae'r farn fod Enoch Powell yn rhyw ddihiryn hiliol yn nonsens llwyr," meddai Mr Hamilton wrth y 大象传媒.
"Fe newidiodd Enoch Powell wleidyddiaeth mewn gwirionedd drwy leisio pryderon a dicter miliynau ar filiynau o bobl oedd yn cael eu hanwybyddu gan y sefydliad.
"Dwi'n meddwl ei fod wedi cael ei brofi'n gywir yn dilyn digwyddiadau wedi hynny," meddai.
"Er, dwi ddim yn meddwl ei fod yn iawn ar un peth - dydyn ni ddim wedi gweld y trais hiliol a'r anoddefgarwch a oedd, ar y pryd, yn digwydd yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i'r farn yma."
Ond fe rybuddiodd Mr Hamilton "nad oedd y mwyafrif o bobl Prydain wedi erfyn y newidiadau cymdeithasol a ddaeth yn sgil mewnfudo torfol, ac nad oedd unrhyw un wedi gofyn y cwestiwn 'a ydych eisiau newid y wlad yn y modd mae wedi digwydd'."
Wrth ymateb i sylwadau'r Arglwydd Hain, dywedodd Mr Hamilton fod neges yr araith i'w glywed yn glir yn ystod ymgyrch y refferendwm, ond "nid mewn modd hiliol, ond mewn ffordd lle byddai lleisiau'r rhieny sy'n cael eu hanwybyddu gan y sefydliad yn cael eu clywed."
Ychwanegodd na fyddai pobl yn poeni am fewnfudo petai ar "raddfa ganolig", ond dywedodd fod llawer iawn o bobl wyn yn cael eu hel o ganol dinasoedd, fel Llundain, i drefi ymylol.
"Yw hi'n iawn fod ein trefi mawr ni'n cael eu troi'n ghettos?"
'Cadw rhethreg hiliol yn fyw'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Os oes yna unrhyw amheuaeth a oedd ideoleg UKIP ar yr ochr dde eithafol, gwrandewch ar eu harweinydd yn y Cynulliad yn amddiffyn araith hiliol Enoch Powell.
"Mae UKIP yn cadw rhethreg hiliol Powell yn fyw."
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod y sylwadau yn "hollol ffiaidd".
"Roedd Powell yn hiliol, mor syml 芒 hynny," meddai.
"Mae clywed rhywun yn ceisio amddiffyn a chyfiawnhau barn hiliol yn profi pa mor rhithiol a phell o realaeth mae UKIP fel plaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2018