Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trapiau hoelion ar lwybr beicio yng Ngheredigion
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i hoelion gael eu gosod ar lwybr sy'n boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr yng Ngheredigion.
Fe gafodd darnau o bren gyda'r hoelion wedi eu gwthio drwyddyn nhw eu gosod ar y llwybr yng nghoedwig Fforest Fawr ger Llambed, ac roedd negeseuon anweddus wedi eu hysgrifennu gerllaw.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio'r cyhoedd sy'n defnyddio'r goedwig i fod yn ofalus.
Cafodd y trapiau eu darganfod gan Dr Roderick Bale sy'n defnyddio'r llwybr i deithio i'r gwaith.
Fe wnaeth ddisgrifio'r trapiau fel hoelion pedair neu chwe modfedd o hyd wedi eu gwthio i mewn i'r darnau pren ac yna'u cuddio gan ddail neu fwsog.
Dywedodd: "Fe fydden nhw'n achosi pynjar ac fe allai achosi anaf i anifail neu berson fyddai'n sefyll arnyn nhw - anaf drwg."
Ychwanegodd ei fod wedi gweld gwydr wedi malu ar yr un llwybr ddwy flynedd yn 么l, ac mae'n credu fod y trapiau "yn ffordd o fygwth pobl i beidio defnyddio'r llwybr".
Roedd Dr Bale yn cyfadde' ei fod wedi gwylltio, ond hefyd "yn ddigalon fod rhywun wedi treulio'i amser yn gwneud hyn".
Ond mynnodd: "Fydda i ddim yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r goedwig. Ry'n ni'n ffodus o gael hwn ar ein stepen drws."
Mae'r goedwig yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru, a dywedodd eu rheolwr eiddo yn yr ardal, Huwel Manley fod yr eitemau dan sylw wedi cael eu clirio.
Dywedodd: "Mae difrodi coedwig yn beryglus dros ben ac yn peryglu pobl ac anifeiliaid.
"Mae pobl yn gallu defnyddio'r goedwig i gerdded, beicio neu farchogaeth. Mae'n ffordd wych o fwynhau'r amgylchedd a bod yn iach yn yr awyr agored, ond mae angen i bobl fod yn ddiogel wrth wneud hynny."
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn ni unrhyw un a welodd ymddygiad amheus yn y goedwig i gysylltu 芒 nhw.