The Assassination of Katie Hopkins i agor yn Theatr Clwyd
- Cyhoeddwyd
Bydd y sioe ddadleuol 'The Assassination of Katie Hopkins' yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru nos Wener.
Mae'r sioe gerdd, sy'n cael ei ddisgrifio fel un "ffraeth" gan Theatr Clwyd yn Sir y Fflint, wedi ysgogi cryn ymateb - yn bennaf oherwydd ei theitl.
Dywedodd Ms Hopkins fod teitl y sioe yn "wahoddiad" cyn cwestiynu pam mai enw hi gafodd ei ddefnyddio.
Ymatebodd Chris Bush, awdures y sioe gerdd, drwy ddweud nad yw'r cynnwys yn clodfori nac yn annog llofruddiaeth Ms Hopkins mewn unrhyw ffordd.
'Pynciau llosg cymdeithas'
Er bod y sioe gerdd yn dechrau gyda llofruddiaeth Ms Hopkins, nid dyma brif ffocws y perfformiad meddai'r awdur.
"Stori yw hon sydd yn defnyddio'r ymateb yn sgil y digwyddiad ffuglennol i edrych ar bynciau llosg ein cymdeithas," eglurodd Ms Bush.
Mae cyfansoddwr y gerddoriaeth, Matt Winkworth, yn ehangu ar hyn drwy ddweud mai prif them芒u'r sioe yw'r rhyddid i fynegi barn, a sut mae newyddion yn cael ei rannu a'i drafod ar-lein.
Dilyn helynt dwy ddynes ifanc mae'r sioe, un sy'n cydymdeimlo'n gryf 芒 Ms Hopkins, ac un arall sy'n credu fod digwyddiadau eraill yn fwy haeddiannol o'r sylw.
Wrth egluro'i phenderfyniad i ddewis Ms Hopkins fel yr unigolyn dan sylw, dywedodd Ms Bush ei bod hi'n "bwysig fod y sioe yn canolbwyntio ar ddynes".
'Hollti barn'
"Mae menywod dadleuol, di-flewyn-ar-dafod yn dal i gael eu barnu yn fwy llym gan y cyhoedd o'i gymharu 芒 dynion," meddai.
"Mae'r unigolyn angen bod yn un sy'n hollti barn gyhoeddus er mwyn herio'r ffordd rydym ni meddwl am barchu bywyd a marwolaeth."
Er bod Ms Hopkins wedi cwestiynu enw'r sioe ar ei gwefan, gwrthododd hi'r cyfle i gael ei chyfweld ar y mater.
Bydd y sioe yn agor yn Yr Wyddgrug ar nos Wener 20 Ebrill, ac yn parhau hyd at 12 Mai.