Yr ymgeiswyr Llafur posib allai olynu Carwyn Jones

Cafodd y byd gwleidyddol yng Nghymru eu synnu gyda'r cyhoeddiad dros y penwythnos y bydd Carwyn Jones yn camu o'r neilltu fel prif weinidog.

Mae'n golygu y bydd yn rhaid i Lafur Cymru ganfod olynydd iddo erbyn yr hydref.

Ar hyn o bryd does neb wedi datgan eu bwriad i sefyll yn bendant, ond mae nifer o enwau wedi'u crybwyll ar gyfer yr ornest.

Disgrifiad o'r fideo, Roger Awan-Scully sy'n ystyried yr arweinwyr Llafur posib

Un o'r rhai amlycaf yw'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, gyda rhai'n awgrymu y byddai'n ffefryn clir petai'n dewis rhoi ei enw yn yr het - ond a oes awydd ganddo?

Dywedodd ddydd Sadwrn y byddai'n rhaid iddo "feddwl drwy bethau" a siarad gyda'i deulu cyn gwneud penderfyniad.

Mae'n dod o adain chwith y blaid, a byddai hynny'n gyson gyda'r cyfeiriad gwleidyddol sy'n cael ei ffafrio gan arweinyddiaeth y blaid ar lefel Brydeinig.

Yn ogystal 芒'i bortffolio presennol, bu'n Ysgrifennydd Iechyd yn ystod y pedwerydd Cynulliad pan oedd record y GIG yng Nghymru yn cael ei feirniadu'n gyson gan y Ceidwadwyr yn San Steffan.

Disgrifiad o'r fideo, Arweinyddiaeth Llafur: Drakeford am 'feddwl drwy popeth' cyn penderfynu

Mae Mr Drakeford eisoes wedi denu rhai o'r ACau o adain Corbynaidd y blaid, gan gynnwys Mike Hedges a Mick Antoniw.

Yn 么l yr Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd mae Mr Drakeford yn geffyl blaen amlwg.

"Mae'n aelod o'r cabinet, mae'n brofiadol iawn mewn gwleidyddiaeth," meddai. "Hefyd mae'n edrych fel ei fod yn cael cefnogaeth llawer ar asgell chwith y blaid Lafur, y Corbynites, felly mae'n ei roi e mewn sefyllfa eithaf cryf."

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething yw'r Ysgrifennydd Iechyd ar hyn o bryd

Aelod arall sydd wedi ei grybwyll yw'r Ysgrifennydd Iechyd presennol, Vaughan Gething.

Ar hyn o bryd fe sy'n gyfrifol am adran fwyaf Llywodraeth Cymru, gan wario hanner cyllideb Cymru.

Cafodd ei ethol i'r Cynulliad yn 2011, ar 么l gweithio i gyfreithwyr Thompsons sydd 芒 chysylltiadau cryf i'r undebau llafur.

Mr Gething oedd llywydd ieuengaf erioed y TUC yng Nghymru. Ni wnaeth ddiystyru'r posibiliad o sefyll pan gafodd ei holi gan 大象传媒 Cymru.

"Mae Vaughan Gething wedi bod yn weinidog iechyd ers y flwyddyn a hanner diwethaf, ac mae wedi bod yn weinidog am sawl mlynedd r诺an," meddai'r Athro Awan-Scully.

Disgrifiad o'r llun, Ai Eluned Morgan fydd arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru, a phrif weinidog benywaidd cyntaf Cymru?

Ymgeisydd posib arall yw Eluned Morgan, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru gafodd ei phenodi'n Weinidog y Gymraeg llynedd.

Mae ganddi yrfa wleidyddol helaeth, ar 么l gwasanaethu gyntaf fel Aelod Seneddol Ewropeaidd rhwng 1994 a 2009 - hi oedd aelod ieuengaf Senedd Ewrop pan gafodd ei hethol gyntaf.

Roedd hi hefyd yn aelod o fainc flaen Llafur yn Nh欧'r Arglwyddi, ac mae ganddi brofiad o weithio yn y sector breifat i gwmni ynni Swalec.

Hyd yn hyn dyw hi ddim wedi trafod y ras arweinyddol.

"Dwi'n meddwl y bydd llawer o bobl yn y blaid Lafur yn meddwl 'rhaid i ni gael rhywun arall [sydd ddim yn] ddyn canol oed, gwyn o dde Cymru', ac yn edrych am rywun ychydig yn wahanol fel yr arweinydd newydd," meddai'r Athro Awan-Scully.

Disgrifiad o'r llun, Does gan Jeremy Miles ddim cymaint o brofiad o fod mewn llywodraeth o'i gymharu 芒 rhai o'r ymgeiswyr eraill posib

Fel Ms Morgan, cafodd Jeremy Miles hefyd ei ethol i'r Cynulliad yn 2016, a hynny fel AC Castell-nedd.

Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach cafodd sedd yn y cabinet, fel y Cwnsel Cyffredinol.

Cyn hynny bu'n gweithio mewn swyddi cyfreithiol o fewn y cyfryngau, gan gynnwys i ITV a NBC Universal.

Dywedodd y byddai'n gweld pwy arall oedd yn sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth cyn penderfynu a oedd ef am wneud.

"Falle byddan nhw'n meddwl 'ydyn ni eisiau rhywun sydd am ddatblygu i swydd y prif weinidog', a rhywun fyddai'n gallu rhoi arweinyddiaeth effeithiol yn y Cynulliad nesaf yn 2021," meddai'r Athro Awan-Scully.

Mae eraill allai fod yn y ras yn cynnwys yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Alun Davies, y Gweinidog Plant Huw Irranca-Davies, ac Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates, gyda phob un wedi gwrthod dweud hyd yma a fyddan nhw'n sefyll.

Ond a fyddan nhw wir eisiau'r swydd mewn gwirionedd?

"Fel roedd Carwyn Jones yn dweud ddoe, mae bod yn brif weinidog, bod yn arweinydd, mae'n swydd anodd iawn, mae'n cael effaith ar y teulu," meddai.

"Felly dwi'n si诺r y bydd Mark Drakeford a gweddill y bobl bosibl yn meddwl 'ydw i wir moyn swydd fel hon? Efallai bod pethau eraill y gallai wneud gyda fy mywyd.'"