大象传媒

Lansio ymgyrch gwrth-gamdriniaeth 'Paid cadw'n dawel'

  • Cyhoeddwyd
camdrin domestig

Bydd ymgyrch newydd yn lansio ddydd Mercher i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gweithredu ar amheuon o gam-drin domestig.

Daw ymgyrch 'Paid Cadw'n Dawel' yn dilyn cynnydd o 15% yn nifer y bobl sy'n cysylltu 芒 llinellau cymorth gyda phryderon am ffrind, gymydog neu aelod o'r teulu.

Derbyniodd Byw Heb Ofn 583 o alwadau rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017, ac fe dyfodd y ffigwr i 671 yn yr un cyfnod eleni.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, nod yr ymgyrch yw dangos sut y gall cynnig help i rywun sy'n profi neu wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol fod yn rhywbeth cadarnhaol iawn.

'Hawl i helpu'

Cafodd yr ymgyrch ei ddatblygu mewn partneriaeth gl貌s ag unigolion sydd wedi goroesi camdriniaeth.

Bydd pum menyw sydd wedi goroesi trais, cam-drin domestig a thrais rhyw yn cyfarfod 芒 Julie James, Arweinydd y T欧 a'r Prif Chwip i rannu eu profiadau.

Dywedodd Ms James: "Rydyn ni eisiau annog pawb i weithredu, i wneud rhywbeth, waeth pa mor fach neu syml, pan fyddan nhw'n poeni y gallai rhywun maen nhw'n ei nabod fod yn profi trais.

"Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae pobl yn teimlo bod ganddynt hawl i helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhyw ac i wneud Cymru yn fwy diogel nag unrhyw le i fod yn fenyw."

Mae'r ymgyrch yn cynnwys ffilm fer, hysbyseb radio a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Mae posib canfod mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ar neu drwy ffonio 0808 8010800 am gyngor a chymorth cyfrinachol 24 awr.