Croesawu athletwyr Gemau'r Gymanwlad Cymru i'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Cafodd llwyddiant tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ei ddathlu mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher.
Daeth Tîm Cymru â 36 o fedalau yn ôl o Arfordir Aur, Awstralia, gan orffen yn seithfed yn y tabl, a sicrhau'r gemau mwyaf llwyddiannus erioed.
Ymhlith yr athletwyr gafodd eu croesawu i'r Senedd roedd y codwr pwysau Gareth Evans, y nofiwr Alys Thomas a Hollie Arnold, enillodd gystadluaeth taflu'r waywffon F46.
Fe gawson nhw eu croesawu gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.
"Unwaith eto, rydyn ni wedi profi fod Cymru wirioneddol yn genedl o bencampwyr, sy'n cynhyrchu campwyr sy'n gallu perfformio ar y llwyfan byd-eang," meddai Mr Jones.
"Diolch, nid yn unig am yr hyn rydych chi wedi ei wneud dros Gymru, ond am fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i filoedd sydd eisiau dilyn yn ôl eich troed."
Diolchodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, i bob un o'r athletwyr am yr hyn gyflawnon nhw yn enw Cymru, gan ychwanegu ei bod yn fraint cael eu croesawu i adeilad y Senedd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wedi'r digwyddiad ffurfiol y tu fewn i'r Senedd, cafodd yr athletwyr gyfle i fynd allan i'r Bae i gwrdd ag aelodau'r cyhoedd oedd wedi dod i ddangos ei cefnogaeth i'r tîm.