Arweinyddiaeth Llafur: 'Peidiwch enwebu mwy am y tro'
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan wedi galw ar ei chyd-ACau Llafur i beidio ag enwebu rhagor o ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth am y tro, nes eu bod wedi cael trafodaeth am gyfeiriad y blaid.
Yr unig ymgeisydd sydd wedi datgan ei ddiddordeb yn olynu Carwyn Jones hyd yn hyn yw'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.
Roedd s茂on y byddai Ms Morgan yn datgan ei bwriad hithau ddydd Gwener, ond dywedodd fod angen "gwneud amser" am drafodaeth gyntaf.
Ychwanegodd na fyddai'n sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru "dim ond i ychwanegu at y niferoedd".
Gwefan di-Gymraeg
Mae rhai o wleidyddion y blaid eisoes wedi galw am sicrhau fod "cystadleuaeth" am y swydd, gan gynnwys cael ymgeisydd benywaidd ar y papur pleidleisio.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates - sydd yn AC dros Dde Clwyd - hefyd dan bwysau i redeg er mwyn sicrhau bod o leiaf un ymgeisydd o ogledd Cymru.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddenu cefnogaeth pump AC Llafur arall i gymryd rhan yn yr ornest, ac mae gan Mr Drakeford eisoes gefnogaeth wyth ohonynt.
Yn 么l rhai ffigyrau blaenllaw o fewn y blaid Lafur, dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fyddai gan Eluned Morgan ddigon o gefnogaeth o fewn y gr诺p i sefyll.
Wrth siarad mewn digwyddiad yn Noc Penfro, dywedodd Ms Morgan ei bod am i Lafur Cymru ddechrau sgwrs ar y materion sydd o bwys i Gymru cyn iddi benderfynu a fydd hi'n sefyll ai peidio.
"Nid nawr yw'r amser i roi fy enw ymlaen achos dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n cynnal yr ymarferiad yma a chael trafodaeth drylwyr o fewn y blaid ar y materion mawr sy'n ein hwynebu ni heddiw," meddai.
Mae Eluned Morgan, sydd yn Weinidog y Gymraeg, wedi lansio gwefan beyondthebubble.net i gyd-fynd 芒'r ymgyrch, gan ddweud ei bod yn "barod i wrando".
Ond mae mudiad Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei bod hi'n "warthus" nad oes fersiwn Gymraeg o'r wefan yn bodoli.
"Os nad yw Gweinidog y Gymraeg yn arddel y polis茂au iaith gorau, beth yw ei diben?" meddai cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf.
"Ai dyma beth mae hi eisiau gwneud gyda'i deddf iaith wan newydd, ganiat谩u mwy o wefannau uniaith Saesneg? Mae hi'n mynd 'mlaen a 'mlaen am hybu a hyrwyddo yn lle rheoleiddio, ond dyw hi ddim hyd yn oed wedi perswadio hi ei hun i ddefnyddio'r Gymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018