CPD Bangor am herio diffyg trwydded Uwch Gynghrair
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb P锚l-droed Dinas Bangor yn dweud eu bod am herio penderfyniad y Gymdeithas B锚l-droed i wrthod trwydded fyddai ei angen i chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Daeth penderfyniad ddydd Iau y byddai'r clwb yn disgyn o'r gynghrair am y tro cyntaf erioed wedi iddyn nhw fethu yn eu hap锚l am drwydded ddomestig.
Fe wnaeth y clwb orffen yn ail yn yr Uwch Gynghrair ar 么l trechu'r Bala yng ng锚m ola'r tymor nos Wener.
Dywedodd y clwb eu bod wedi methu cael trwydded oherwydd problemau gyda'u gwybodaeth a'u datganiadau ariannol.
'Achos cryf'
"Mae llawer o sylw a dyfalu wedi bod yn gysylltiedig 芒 gwrthod trwydded ddomestig ac Ewropeaidd y clwb ar gyfer tymor 2018/19," meddai'r clwb mewn datganiad ddydd Sadwrn.
"Fel clwb byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i wrthdroi hyn.
"Rydyn ni'n trafod gyda chynrychiolwyr cyfreithiol i herio penderfyniad CBDC dros benderfyniad archwilydd, allai gostio canoedd o filoedd o bunnau i'r clwb.
"Mae'n rhaid i ni wneud popeth posib i roi i'n cefnogwyr yr hyn maen nhw'n ei haeddu, yn ogystal ag ychwanegu at ein hanes a'n llwyddiant anhygoel.
"Rydyn ni fel clwb yn teimlo bod gennym achos cryf i gymryd hyn ymhellach."
Ddydd Iau fe lwyddodd Llanelli i ennill trwydded ar 么l apelio, gan olygu y byddan nhw nawr yn cael eu dyrchafu o Gynghrair y De.
Fe wnaeth Cei Connah, oedd hefyd wedi methu 芒 chael trwydded ar yr ymgais gyntaf, lwyddo gyda'u hap锚l hwythau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018