大象传媒

Adroddiad hir disgwyliedig Tawel Fan i'w gyhoeddi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llinell amser Tawel Fan

Yn ddiweddarach bydd adroddiad hir disgwyliedig yn cael ei gyhoeddi fydd yn edrych ar amgylchiadau 108 o gleifion dementia mewn uned seiciatrig yn Ysbyty Glan Clwyd.

Casgliadau ymchwiliad cynhwysfawr yw'r ddogfen hon a hynny ar 么l rhai o'r honiadau mwyaf difrifol o gamdriniaeth yn ymwneud 芒'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Cafodd cyn ward Tawel Fan yn Uned Seiciatrig Ablett ei chau'n sydyn fis Rhagfyr 2013 yn dilyn honiadau gafodd eu disgrifio gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel rhai "difrifol iawn".

Mae sawl cyfnod o oedi wedi bod cyn cyhoeddi'r adroddiad.

Y cefndir

Nid dyma'r ymchwiliad cyntaf i edrych ar y sefyllfa yn ward Tawel Fan oedd yn cynnwys 17 gwely.

Cafodd ymchwiliad annibynnol ei wneud, gyda'r adroddiad hwnnw yn 2015 yn un o'r rhai mwyaf damniol erioed i'w gyhoeddi am safonau gofal yng Nghymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd adroddiad Donna Ockenden yn dweud bod rhai cleifion wedi eu gadael i orwedd yn noeth ar y llawr yn ward Tawel Fan

18 o deuluoedd a 40 aelodau o staff gafodd eu cyfweld.

Fe ddisgrifiodd yr adroddiad sut y cafodd y cleifion mwyaf bregus - gan gynnwys rhai oedrannus 芒 dementia - eu gadael i orwedd yn noeth ar y llawr.

Roedd honiadau bod eraill wedi'u gadael mewn gwl芒u gyda'r dillad gwely wedi'u gwlychu gan wrin neu'n crwydro'r ward heb unrhyw oruchwyliaeth.

Dywedodd un teulu bod y profiad o fynd i'r uned fel ymweld 芒 "s诺" gyda "anifeiliaid wedi eu caethiwo am gyfnod hir" yn crwydro o amgylch.

Yn 么l tystiolaeth bellach, doedd y staff ddim yn poeni am yr hyn oedd yn digwydd yno na chwaith yn ceisio cuddio'u gweithredoedd, oedd yn cynnwys defnyddio dodrefn i rwystro cleifion.

Yn 么l yr awdur Donna Ockenden, nid ambell unigolyn oedd yn ymddwyn fel hyn - roedd y gamdriniaeth drwyddi draw yn y ward.

Doedd rheolwyr ddim wedi gwneud digon i gadw llygad ar y sefyllfa gan fethu gweithredu neu hyd yn oed wrando ar bryderon teuluoedd.

Roedd y canfyddiadau yma'n ychwanegol i broblemau difrifol a hirdymor eraill ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Yn fuan wedyn fe osodwyd y bwrdd mewn mesurau arbennig - y corff cyntaf o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i wynebu'r lefel uchaf o graffu ac ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Fis Mai 2015, mi gyhoeddodd Heddlu'r Gogledd a Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai unrhyw erlyniadau troseddol.

Y sefyllfa bresennol

Bydd yr adroddiad ddydd Iau, sydd wedi ei lunio gan y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal ar 么l iddynt gael ei comisiynu gan y bwrdd iechyd, yn edrych ar yr holl dystiolaeth.

Mae hynny'n cynnwys ymchwiliad blaenorol gan yr heddlu ac adolygiad sydd heb ei gyhoeddi i farwolaethau o fewn y bwrdd iechyd i weld a oedd methiannau honedig ar ward Tawel Fan wedi cyfrannu at unrhyw farwolaethau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd ymchwiliad arall yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf

Mae disgwyl i ail ymchwiliad gan Donna Ockenden gael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd yn ystyried a oedd y llywodraethiant o fewn y corff wedi cyfrannu at y sefyllfa yn Nhawel Fan.

Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau mewn mesurau arbennig.

Mae'n dweud, er gwaethaf peth cynnydd, bod angen sicrhau nifer o welliannau pellach cyn bod gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y gogledd yn cyrraedd safonau disgwyliedig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud na fydd ward Tawel Fan yn ail-agor ac mae'n bosib y bydd yr adeilad yn cael ei ddymchwel

Yn 么l Sean Page, nyrs ymgynghorol ar gyfer dementia gyda'r bwrdd iechyd fe fydd strategaeth dementia newydd yn cael ei lansio yn fuan fydd yn amlinellu'r blaenoriaethau o ran gwelliannau ar gyfer y blynyddoedd nesaf ac yn cynnwys yr holl 16,000 o staff Betsi.

Dywedodd bod yna "newid diwylliant arwyddocaol" wedi bod ar 么l y "teimlad o gywilydd" oedd ar draws y mudiad.

Mae Tom Regan yn arweinydd nyrsio iechyd meddwl ac wedi bod yn gweithio ar ward Bryn Hesketh sef uned i gleifion gyda dementia. Mae rhai cleifion fyddai wedi mynd i Tawel Fan nawr yn dod i'r ward yma.

Mae anghenion y cleifion a'u teuluoedd yn bwysig meddai.

"Gweithio gyda cleifion i feddwl am eu hatgofion nhw o'r gorffennol. Gwneud iddyn nhw deimlo mor gyfforddus ag sy'n bosib, ac mae sawl math o therapi yn mynd ymlaen i helpu nhw gyda'u hanghenion ac i helpu nhw gyrraedd pwynt lle fedrith nhw adael fama i gario ymlaen."

Does dim bwriad ail-agor ward Tawel Fan ac mae'n bosib y bydd yn cael ei dymchwel fel rhan o gynlluniau i ailwampio gwasanaethau iechyd meddwl.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio yn uniongyrchol 芒'r stori yma cysylltwch 芒 ni trwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk