大象传媒

Gohirio cynllun credyd cynhwysol achos darpariaeth Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Canolfan waith

Bydd cyflwyniad y cynllun credyd cynhwysol dadleuol yn cael ei ohirio am chwe mis yn yr ardaloedd sydd 芒 chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Daw'r oedi oherwydd problemau gyda darparu'r gwasanaeth yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud fod cyflwyniad y cynllun, sydd 芒'r bwriad o symleiddio'r system fudd-daliadau, yn cael ei ohirio mewn 13 ardal yng Nghymru.

Y bwriad oedd cyflwyno'r cynllun credyd cynhwysol ym mis Mehefin, ond fe fydd hi'n fis Rhagfyr ar yr ardaloedd hynny'n derbyn y gwasanaeth.

Bydd yr oedi'n digwydd mewn ardaloedd o amgylch yr 13 canolfan byd gwaith yng Nghaergybi, Amlwch, Llangefni, Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog, Dolgellau, Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli.

Dywedodd y Gweinidog Cyflogaeth, Alok Sharma eu bod nhw'n "parhau i wneud cynnydd wrth ddarparu'r gwasanaeth yn llawn yn y Gymraeg".

Ychwanegodd Mr Sharma: "Er ei bod hi wastad wedi bod yn bosib siarad gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Gymraeg, hoffwn ni gynnig gwasanaeth Gymraeg ymarferol mor fuan 芒 phosib yn yr ardaloedd hynny sydd 芒 chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg."