'Gwrthwynebu' pleidlais am swyddog Cymraeg Abertawe

Ffynhonnell y llun, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae ffrae wedi codi ymysg myfyrwyr Abertawe dros gynnig i gael Swyddog Materion Cymraeg llawn amser i'r Undeb Myfyrwyr.

Ar hyn o bryd mae'r swydd yn un rhan amser, ond mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abertawe eisiau i'r Undeb Myfyrwyr gynnal refferendwm ar wneud y swydd yn un llawn amser.

Ond yn ôl un swyddog o fewn yr Undeb Gymraeg, roedd yna wrthwynebiad mawr i'r syniad wrth iddo gael ei drafod yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol yr Undeb Myfyrwyr nos Fawrth.

Yn ôl Gwyn Renolff, swyddog chwaraeon Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abertawe, roedden nhw'n disgwyl rhywfaint o wrthwynebiad, ond "ddim cymaint â hynny".

Dywedodd Undeb Myfyrwyr Abertawe nad yw canlyniad y bleidlais wedi ei gyhoeddi eto.

Fe siaradodd Gwyn Renolff ar raglen Taro'r Post ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.

"Na'th y Swyddog Materion Cymraeg ar hyn o bryd, Tomos Watson, roi 'motion' yn y cyfarfod i gael swyddog materion Cymraeg llawn amser," meddai Mr Renolff.

"Beth oedd y 'motion' yn dweud oedd bo' ni'n gallu cael refferendwm fel bod myfyrwyr yn gallu pleidleisio ar hyn i weld os oedden nhw 'moyn' y swyddog neu peidio.

"A'th Tomos lan i gyflwyno'r mater, ac o'dd rhaid i'r undeb roi cyfle i unrhywun oedd yn gwrthwynebu ddweud eu rhan nhw. Na'th rhai pobl fynd lan i siarad yn erbyn y refferendwm.

"Y grŵp mwyaf oedd yn gwrthwynebu hyn, o be' dwi'n deall, oedd y myfyrwyr Llafur, ac roedden nhw i gyd o'r un farn, yn erbyn y syniad."

Cafodd pleidlais ei chynnal, ac fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi o fewn y 24 awr nesaf.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Sicrhau cysondeb

"O'dd lot o gefnogaeth gyda ni yn y lleoliad", meddai Mr Renolff, "ond mae e'n werth gweld os na'th y myfyrwyr oedd yn gwrando ar y ddadl fynd gyda nhw neu gyda ni.

"Be ddyle ddigwydd ydy bod Abertawe yn yr un safle ag Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd, ble ma' 'da nhw swyddog llawn amser y Gymraeg. Abertawe yw'r unig un heb un.

"Felly beth fydde'n angenrheidiol ydy cael y refferendwm yma fel bo' nhw'n gallu pleidleisio a bod digon o gefnogaeth fel bo' ni'n gallu neud e."

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Undeb y Myfyrwyr adeiladau ar gampws Prifysgol Abertawe yn Singleton ac ar gampws y Bae

Dywedodd Undeb Myfyrwyr Abertawe wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru: "Mae'n bles gennym weld gymaint o fyfyrwyr yn ymgysylltu yn ein gweithdrefnau democrataidd.... (ac) mae'n wych bod y cynnig hwn wedi cael ei gyflwyno gan ei fod yn dangos bod myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn lleisio'u barnau.

"Nid barn Undeb y Myfyrwyr oedd y sylwadau ar gynigion yn y CCB, ond barnau myfyrwyr. Rôl Undeb y Myfyrwyr yw cynrychioli myfyfwyr o bob cefndir.

"Cafodd y cynnig hwn ei gyflwyno i fyfyrwyr bleidleisio ar Undeb y Myfyrwyr yn cynnal refferendwm am Swyddog Materion Cymraeg llawn-amser (nid pleidlais ar gael swyddog oedd hon), ac nid yw canlyniad y bleidlais wedi cael ei gyhoeddi eto.

"Mae cynigion yn cael eu cyflwyno, dadlau a phleidleisio drostynt gan fyfyrwyr.

"Edrychwn ymlaen at weld canlyniad y ddadl hon."