大象传媒

Cyngor Gwynedd i ailystyried cau clybiau ieuenctid

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 40 o brotestwyr y tu allan i bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi gwrthod gwyrdroi penderfyniad dadleuol i gau holl glybiau ieuenctid y sir.

Ond ar 么l trafodaeth danllyd ac emosiynol, cytunodd yr aelodau y dylid ailystyried rhai elfennau o'r cynllun.

Roedd cynghorwyr yn trafod argymhellion i gau'r rhwydwaith presennol o glybiau a chreu gweithgareddau newydd i bobl ifanc mewn un clwb ar gyfer Gwynedd.

Yn 么l ymgyrchwyr mae'r argymhelliad yn niweidiol i'r iaith Gymraeg ac yn annheg i bobl ifanc y sir.

6,000 enw ar ddeiseb

Bydd y cyngor yn asesu rhai elfennau o'r model newydd, gan gynnwys edrych ar effaith y newid ar ardaloedd difreintiedig a'r iaith Gymraeg.

Bydd trafodaethau brys hefyd yn cael eu cynnal gyda chynghorau tref a chymuned yngl欧n 芒'r posibilrwydd o gadw rhai clybiau i fynd.

Yn gynharach bu ymgyrchwyr yn protestio y tu allan i bencadlys y cyngor er mwyn ceisio achub y gwasanaeth presennol.

Cafodd deiseb gyda bron i 6,000 o enwau arni ei chyflwyno yn gofyn i'r cyngor ailfeddwl.

Penderfyniad 'anodd'

Mae'r cyngor yn chwilio am ffyrdd newydd i drefnu gweithgareddau i bobl ifanc ac arbed hyd at 拢270,000 fel rhan o gynllun arbedion ehangach.

Wrth iddo gyflwyno'r cynlluniau dywedodd yr aelod cabinet Craig ab Iago ei fod yn benderfyniad "anodd".

Ond fe hawliodd nad oedd y gwasanaeth presennol yn cwrdd ag anghenion pobl ifanc.

Mae clybiau ffermwyr ifanc yn wynebu toriadau hefyd wedi'r penderfyniad i ddileu eu grant blynyddol o 拢37,960.