大象传媒

Mark Williams yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y byd

  • Cyhoeddwyd
Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd Mark Williams i ennill ei drydedd Pencampwriaeth byd yn y Crucible nos Sul

Y Cymro Mark Williams yw pencampwr Snwcer y byd ar 么l trechu John Higgins o 18-16 ffr芒m yn theatr y Crucible, Sheffield nos Sul.

Dyma'r trydydd tro i Williams ennill y bencampwriaeth, gyda'i fuddugoliaeth gyntaf yn dod 18 mlynedd yn 么l.

Fe wnaeth Williams i ennill saith ffr芒m yn olynol i fod 14-7 ar y blaen.

Ond, brwydrodd Higgins yn 么l gan ennill wyth o'r naw ffr芒m oedd i ddilyn i ddod a'r sg么r yn 15-15.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Mark Williams ymddangos yn noeth ar gyfer cynhadled i'r wasg wedi'r rownd derfynol.

Er ymdrech Higgins i frwydro'n 么l, llwyddodd Williams i ennill gan sicrhau gwobr o 拢425,000 gan drechu Higgins oedd yn edrych am ei bumed bencampwriaeth o'i yrfa.

Yn ystod y Bencampwriaeth, reodd Williams wedi dweud y byddai'n mynd i gynhadledd newyddion yn noeth os fyddai'n ennill.

Wedi'r fuddugoliaeth, wrth gadw at ei air, cyfeiriodd at yr un cyfnod flwyddyn yn 么l pan gollodd yn y rowndiau rhagbrofol ac ystyried ymddeol.

"Mae'n anhygoel, blwyddyn yn 么l doeddwn ddim hyd yn oed yma, roeddwn yn gwylio'r cyfan mewn caraf谩n.

"Roeddwn wir yn ystyried rhoi'r gorau iddi, ond dywedodd fy ngwraig na allai gysgu yn y t欧 24 awr y dydd," meddai.