大象传媒

Lynette White: Adroddiad am ddiddymu achos yn costio 拢900,000

  • Cyhoeddwyd
Richard Horwell QCFfynhonnell y llun, 3 Raymond Buildings Barristers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Richard Horwell QC ei dalu 拢415,984

Fe wnaeth ymchwiliad annibynnol, a ddaeth i'r casgliad mai "camgymeriadau dynol" arweiniodd at ddiddymu achos yn erbyn wyth cyn-swyddog gyda Heddlu'r De, gostio dros 拢900,000.

Roedd yr wyth heddwas yn rhan o'r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White.

Cafodd Richard Horwell QC ei dalu 拢415,984 am arwain yr ymchwiliad.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd ymdrech fwriadol i gelu unrhyw drosedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod y gost yn adlewyrchu "cymhlethdod" yr ymchwiliad.

Datgelodd ateb i gais rhyddid gwybodaeth gan 大象传媒 Cymru mai cyfanswm y gost oedd 拢906,098.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lynette White ei thrywannu i farwolaeth ym 1988

Cafodd yr wyth cyn swyddog eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, am eu rhan yn arestio ac erlyn pum dyn am lofruddio Ms White yng Nghaerdydd ym 1988.

Cafodd ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn ardal y dociau.

Fe gafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu ar gam, a hynny am oes yn 1990, cyn i'r tri gael eu rhyddhau yn 1992.

Ond daeth yr achos yn erbyn y swyddogion heddlu i ben yn ddisymwth yn 2011.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Daniels, Peter Greenwood, Paul Jennings, Graham Mouncher. Rhes isaf: Thomas Page, Richard Powell, John Seaford a Paul Stephen oedd yr wyth cyn swyddog gyda Heddlu'r De

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae cost yr ymchwiliad annibynnol a arweiniwyd gan Gwnsler y Frenhines i gwymp yr achos yn 2011 yn adlewyrchu ei gymhlethdod, ei raddfa a'i hyd.

"Gwnaeth yr adroddiad 17 o argymhellion i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i wella'r broses datgelu."

Derbyniodd y bargyfreithiwr iau, Patrick Hill, 拢380,761, roedd costau cyfreithiol yr hawlwyr yn 拢86,370, tra bod costau'r Adran Gyfreithiol yn 拢4,916.

Costau eraill oedd 拢14,470 ar gyfer trawsgrifiad o'r achos sifil yn 2015 a ddygwyd yn erbyn Heddlu De Cymru gan gyn swyddogion a oedd yn ymwneud ag ymchwilio i lofruddiaeth Lynette White, a 拢4,315 ar gyfer fformatio, argraffu a chyhoeddi'r adroddiad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda'r cloc o'r chwith uchaf: cafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller eu carcharu ar gam yn 1989, cafwyd Ronnie a John Actie yn ddieuog

Daeth adroddiad Richard Horwell QC i'r casgliad nad oedd ymdrech fwriadol i gelu unrhyw drosedd.

Yn hytrach, mae'n beio'r sefyllfa ar "sawl methiant dynol".

Yn 2003, a hynny oherwydd technoleg DNA newydd oedd ar gael i Heddlu De Cymru, fe gafodd llofrudd Ms White, Jeffrey Gafoor, ei ddal ac fe gyfaddefodd ei fod wedi ei thrywanu wedi ffrae dros 拢30.

Ffynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeffrey Gafoor yn cael ei arwain i Lys y Goron Caerdydd i gael ei ddedfrydu yn 2003