Cynllun yswiriant i amddiffyn meddygon teulu Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cynllun fyddai'n talu am fath o yswiriant i amddiffyn meddygon teulu mewn achosion o esgeulustod clinigol.
Ar hyn o bryd mae meddygon teulu yng Nghymru yn gorfod talu am eu cynlluniau indemniad eu hunain.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi bwriad i dalu am yr yswiriant i feddygon yn Lloegr, yn sgil pryder y byddai rhai yn ystyried rhoi'r gorau i'r proffesiwn wrth i gostau indemniad gynyddu.
Bydd y cynllun yn dod i rym yn y ddwy wlad ym mis Ebrill 2019.
Fe fydd yn berthnasol i holl feddygon teulu Cymru, ynghyd 芒 gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes ymarfer meddygol o fewn y GIG.
Bydd y cynllun mor debyg 芒 phosib i'r un yn Lloegr er mwyn sicrhau nad yw meddygon teulu Cymru dan anfantais, ac i osgoi effeithiau negyddol posib ar gydweithio trawsffiniol.
Mae Llywodraeth Cymru "wedi gwrando ar bryderon meddygon teulu" medd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
"Rydyn ni'n deall yr effaith y mae costau cynyddol indemniad proffesiynol yn ei chael ar y gweithlu a'r potensial ar gyfer pwysau yn y dyfodol pe bai gwahanol arferion indemniad ar waith yng Nghymru a Lloegr," meddai.
"Rydyn ni wedi cyfrannu tuag at gostau cynyddol indemniad drwy'r ymgodiad blynyddol i d芒l a chostau meddygon teulu ers 2017, ond heddiw rydyn ni'n cymryd cam pellach i ymateb i bryderon y meddygon drwy gynnig ateb hirdymor a chynaliadwy.
"Gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn tawelu meddyliau'r meddygon sy'n gweithio mor galed yma."
'Cam pwysig iawn'
Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan gymdeithas feddygol y BMA yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd Dr Charlotte Jones a Dr Peter Horvath-Howard o bwyllgor meddygon teulu BMA Cymru bod "symud tuag at system indemniad gyda chefnogaeth y wladwriaeth i holl ymarferwyr cyffredinol Cymru yn gam pwysig iawn ymlaen i wella cynaliadwyedd ymarfer meddygol yng Nghymru drwy roi sylw i'r costau sylweddol hyn ar feddygon".
Ychwanegwyd: "Mae'n galonogol clywed y bydd y cynllun yn cynnwys y t卯m clinigol ehangach, ac yn sicrhau y bydd unrhyw atebolrwydd sydd gan feddygon teulu dros y timau amlddisgyblaethol ehangach sy'n gweithio ar draws clystyrau yn cael ei gynnwys."
Fformiwla iawndal
Yn 么l y gyfreithwraig Mari Rosser, sy'n arbenigo yn y maes esgeulustod iechyd, mae cynnydd cyffredinol wedi bod yn nifer y cwynion a cheisiadau am iawndal, ond yr hyn sydd wedi cael yr effaith fwyaf yw newid y llynedd yn y fformiwla sy'n pennu taliadau iawndal.
Dywedodd bod y newid hwnnw wedi arwain at gynnydd sylweddol yn lefelau iawndal yn yr achosion mwyaf difrifol.
"Mae'r diwydiant yswiriant, fel unrhyw ddiwydiant arall, wedi ymateb i hwnna a gosod lefelau premium uwch ar gyfer meddygon teulu," meddai.
"Ni'n gweld nifer fach o achosion... lle does dim yswiriant i gael. Ma' hwnna'n gadael y claf heb bosibilrwydd o gael iawndal mewn achosion lle mae'r niwed yn gallu bod yn ddifrifol iawn."