Aelodau Cynulliad yn cymeradwyo cytundeb Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae mwyafrif o ACau wedi cymeradwyo mesur Brexit dadleuol wedi iddo fynd gerbron y Senedd ddydd Mawrth.
Daw hynny'n dilyn cytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE, yn dilyn misoedd o drafodaethau.
Cafodd y mesur ei gefnogi gan 46 o aelodau, tra bo naw wedi gwrthwynebu.
Fe wnaeth ACau Llafur, y Ceidwadwyr ac UKIP gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, gyda Phlaid Cymru'n gwrthwynebu.
Ar y llaw arall, mae mwyafrif o aelodau Senedd Yr Alban wedi pleidleisio yn erbyn y mesur ddydd Mawrth.
'Pryder'
Yn wreiddiol roedd llywodraethau Cymru a'r Alban wedi gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth o Lywodraeth y DU, gan ei ddisgrifio fel ymgais i "gipio p诺er".
Roedden nhw wedi dweud y byddai pwerau mewn rhai meysydd datganoledig yn cael eu trosglwyddo dros dro i San Steffan yn hytrach na'r sefydliadau datganoledig yn dilyn Brexit.
Fis diwethaf fe ddaeth Llywodraeth Cymru i gytundeb, ond mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i'w wrthwynebu.
Mae'r cytundeb hwnnw'n golygu y byddai Llywodraeth y DU yn gofyn am ganiat芒d y sefydliadau datganoledig cyn newid unrhyw bwerau sydd wedi'u lleoli yn San Steffan.
Ond os na fyddai modd datrys unrhyw anghydfod, San Steffan fyddai'n cael y gair olaf.
Ond os na fyddai modd datrys unrhyw anghydfod, San Steffan fyddai'n cael y gair olaf.
Mae hefyd yn dweud y byddai'r pwerau'n cael eu cadw yn San Steffan am hyd at saith mlynedd wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019.
Yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones eu bod wedi cynnal trafodaethau hirfaith er mwyn "sicrhau'r fargen orau i Gymru".
Dadl yn y Senedd
Mewn dadl ar y pwnc yn y Senedd yn ddiweddarach, cafodd y Gweinidog Cyllid Mark Drakeford ei herio gan ACau Plaid Cymru i esbonio pam fod Llywodraeth Cymru'n fodlon derbyn cytundeb roedd Llywodraeth Yr Alban wedi'i wrthod.
Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd pobl Yr Alban yn gwneud y penderfyniadau maen nhw'n credu sy'n iawn ar gyfer Yr Alban, rydyn ni'n gwneud penderfyniadau 'dyn ni'n credu sydd yn iawn ar gyfer Cymru."
Mynnodd y gweinidog hefyd nad oedd y mesur yn caniat谩u ymestyn y cymalau fyddai'n golygu bod y pwerau'n cael eu cadw'n San Steffan dros dro.
Wrth ymateb dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: "Yr egwyddor fan hyn, mewn perthynas 芒'r Alban, ydy bod ffigyrau amlwg o fewn eich plaid yn credu bod hyn yn sen ar ddemocratiaeth, ond yng Nghymru am ryw reswm dydi o ddim."
Dywedodd AC UKIP Neil Hamilton ei fod, fel unoliaethwr, o blaid y cytundeb gan nad oedd hi'n iawn i "un rhan o'r Deyrnas Unedig rwystro'r broses".
Gwrthwynebiad Yr Alban
Mae ffynhonnell yn agos at y trafodaethau wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru fod Llywodraeth Yr Alban wedi "cerdded i ffwrdd o'r opsiwn roedden nhw'n honni ei ffafrio" yn y trafodaethau.
Dywedodd fod "dau opsiwn ar y bwrdd" ychydig wythnosau yn 么l, a'r un roedd Llywodraeth Yr Alban yn ei ffafrio oedd yr un yn y cytundeb terfynol rhwng llywodraeth Cymru a'r DU.
Mynnodd ffynhonnell o Lywodraeth Yr Alban eu bod wedi bod yn "agored i'r ddau [opsiwn]", ond ei fod yn fater o ddod i gytundeb y byddai Senedd Yr Alban yn ei gymeradwyo.
"Mae'r diwygiadau eu hunain yn drafferthus tu hwnt oherwydd y diffiniad o benderfynu ar gydsyniad, sydd yn y b么n yn golygu petai Senedd Yr Alban yn gwrthod rhoi cydsyniad, gallai Llywodraeth y DU gymryd hynny fel 'golau gwyrdd' a gweithredu beth bynnag."
Mewn erthygl yn y Sunday Herald dywedodd prif weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon fod gwrthwynebiad llywodraeth yr SNP yn golygu mai nhw oedd yr "unig blaid sydd ar 么l yn amddiffyn egwyddorion sylfaenol datganoli".
Ond dywedodd un ffynhonnell: "Wrth fynnu y dylai Senedd Yr Alban gael feto dros faterion allai gael effaith sylweddol ar gyfer y DU gyfan, maen nhw'n tanseilio seilwaith datganoli'n llwyr."
Mynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood y dylai'r Cynulliad wrthwynebu cytundeb Llywodraeth Cymru gan y byddai mesur Brexit Llywodraeth y DU yn "gwanhau'r Cynulliad".
"Fel mae pethau'n sefyll, mae Llafur yn Llundain a'r Alban yn gwrthwynebu'r ymgais yma gan y Tor茂aid i gipio pwerau, ond mae Llafur yng Nghymru yn hapus i gydweithio," meddai.
Cyn y ddadl ddydd Mawrth yn y Senedd, dywedodd pwyllgor Brexit y Cynulliad fod camau wedi'u cymryd i wella'r mesur.
Ond dywedodd y cadeirydd David Rees AC: "Dyw amcanion y pwyllgor dal heb gael eu cyrraedd yn llawn ac rydyn ni'n benodol yn bryderus am allu'r Cynulliad i basio deddfau mewn meysydd polisi fel amaeth allai cael eu cyfyngu gan Lywodraeth y DU, hyd yn oed mewn amgylchiadau ble mae'r Cynulliad wedi gwrthod cydsyniad ar gyfer cyfyngiadau o'r fath."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018