Gr诺p yn rhedeg i wella problemau iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p rhedeg wedi cael ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin i helpu pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, yn cynnwys iselder, gorbryder a PTSD.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae'r gr诺p o unarddeg o redwyr yn cael ei arwain gan hyfforddwyr rhedeg arbenigol o Athletau Cymru, a gweithwyr ym maes iechyd meddwl.
Mae nhw bellach yn paratoi i redeg Hanner Marathon Abertawe ym mis Mehefin.
10 wythnos ers cyfarfod am y tro cyntaf, mae'r gr诺p wedi cwblhau rhediad o 10 milltir - y pellter mwyaf cyn y ras.
Un o aelodau gr诺p 'We Can Run Llanelli' fydd yn rhedeg yr Hanner Marathon ydi Andrew Bowen o Lanelli. Fe ymunodd 芒'r gr诺p i'w helpu i ymdopi 芒'r boen yn dilyn marwolaeth annisgwyl ei fab ieuengaf Ryan.
Fe laddodd Ryan, 18, ei hun ym mis Mehefin 2017, a daeth ei dad o hyd iddo funudau yn ddiweddarach.
'Helpu i ymdopi'
Fe ddywedodd Mr Bowen bod marwolaeth ei fab wedi dinistrio bywydau ei deulu, a'i fod ar restr aros am driniaeth PTSD a therapi siarad i'w helpu gyda'r 么l-fflachiadau a'r hunllefau: "Fe awgrymodd rhywun y dylwn ddechrau rhedeg, ac fe gefais fy nghyflwyno i'r gr诺p.
"Fe 锚s atyn nhw ym mis Ionawr mewn tywydd oer, rhewllyd, gwlyb - popeth, i roi tro arni.
"Dwi wedi stopio smocio. Dwi ddim wedi cael cyfle i yfed llawer o alcohol - ar wah芒n i gemau rhyngwladol, a dwi ddim wedi edrych yn 么l ers hynny i fod yn onest."
"Dwi wedi gwneud wyth ParkRun yn olynol, ac mae popeth yn cyfrannu tuag at gyrraedd y nod, ond yn bwysicach mae'n fy helpu i ymdopi 芒'r boen o golli Ryan, yn helpu i dynnu fy meddwl oddi ar y golled. Fe fyddwn yn argymell y dylai unrhyw un roi cynnig arni."
Gwella hyder a ffitrwydd
Mae pedwar o weithwyr iechyd meddwl yn ymuno 芒'r gr诺p wrth iddyn nhw redeg.
Maen nhw'n cyfarfod ddwywaith yr wythnos ymhob tywydd, o dan arweiniad Sharon Leech o RunWales - yr adran o fewn Athletau Cymru sy'n gyfrifol am redeg cymdeithasol.
Dim ond am funud ar y tro roedden nhw'n gallu rhedeg i ddechrau, meddai Sharon, ond o fewn ychydig wythnosau roedd eu hyder a'i ffitrwydd wedi gwella.
Bob blwyddyn, fe fydd un o bob pedwar oedolyn yn dioddef o salwch meddwl, ac mae'r amseroedd aros am driniaeth a therap茂au ar y GIG yn gallu bod yn hir.
Yn 么l arbenigwyr, fe all mynd allan, cyfarfod 芒 phobl eraill, ac ymarfer corff yn gyson helpu pobl gyda chyflyrau yn cynnwys iselder, gorbryder a PTSD.
Gall rhedwyr gael eu cyfeirio at y gr诺p gan feddyg teulu, gweithiwr iechyd meddwl, neu wneud cais eu hunain i ymuno.