大象传媒

'Diffygion sylfaenol' wrth asesu budd-dal pobl anabl

  • Cyhoeddwyd
Cadair olwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae PIP yn cael ei dalu i bobl anabl i'w helpu i fyw bywyd annibynnol

Roedd tri chwarter y bobl anabl wnaeth herio penderfyniad i dynnu neu leihau eu prif gymhorthdal yn llwyddiannus yng Nghymru'r llynedd.

Mae elusennau'n dweud eu bod wedi dychryn o weld y ffigyrau, gan ddweud eu bod yn "dangos yn amlwg bod diffygion sylfaenol" wrth asesu anghenion pobl anabl.

Mae'r data a gafwyd o ymchwiliad 大象传媒 Cymru hefyd yn dangos bod apeliadau yn erbyn y Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) wedi cynyddu yn eu llwyddiant ers 2014, a bod apeliadau llwyddiannus yn amrywio 20% yn ddibynnol ar ble mae'r person yn byw.

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bod tystiolaeth newydd yn aml yn dod i'r amlwg mewn gwrandawiadau tribiwnlys.

Hyd at 拢213 yr wythnos

Y llynedd roedd tua 100,000 o bobl ledled y DU yn llwyddiannus mewn tribiwnlysoedd yn erbyn penderfyniadau'r DWP i leihau neu gael gwared ar y ddau brif fudd-dal anabledd - PIP a'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

Roedd hyn yn 67% o'r holl apeliadau, ac wedi codi o 58% yn 2015.

Ond mae ymchwil gan 大象传媒 Cymru yn awgrymu bod 8,000 o bobl yng Nghymru - 75% o'r holl apeliadau - wedi bod yn llwyddiannus yn apelio penderfyniadau PIP ac ESA yn 2017.

Mae PIP gwerth hyd at 拢139.75 yr wythnos, tra bo pobl yn gallu hawlio hyd at 拢73.10 gyda ESA.

Mae'r ddau fudd-dal yn ddibynnol ar asesiad o'r person sy'n hawlio, i benderfynu sut mae salwch neu anabledd y person yn effeithio ar gost eu bywyd dyddiol.

'Angen trawsnewid'

Dywedodd prif weithredwr elusen Scope, Mark Atkinson: "Mae'r cynnydd yn nifer yr apeliadau llwyddiannus a'r gwahaniaethau rhanbarthol enfawr wedi'n dychryn, ac yn dangos yn amlwg bod diffygion sylfaenol mewn asesiadau.

"Mae angen i'r llywodraeth fynd i'r afael 芒'r sefyllfa. Mae pobl anabl yn dibynnu ar y budd-daliadau yma i fyw yn annibynnol ac fel rhan o'u cymuned.

"Mae'n rhaid i asesiadau PIP ac ESA gael eu trawsnewid i gael gwared ar y diffyg hyder, diffyg tryloywder a'r gwallau cyson mae pobl anabl yn eu hadrodd i ni'n wythnosol."

Stori Steven Evans

Fe wnaeth Steven Evans o Gasnewydd, sy'n dioddef o barlys yr ymennydd ac osteoarthritis, fynd i 拢3,500 o ddyled wedi i'r DWP roi stop ar ei gymhorthdal.

Roedd y DWP yn gyrru llythyrau ato yn gofyn iddo fynychu asesiad ar gyfer PIP, ond dywedodd Mr Evans na welodd y rhain, ac na fyddai wedi gallu eu hagor beth bynnag oherwydd ei gyflwr.

Pan gafodd ei fudd-dal ei ganslo, gofynnodd i'w holl lythyrau gael eu gyrru at elusen leol fel na fyddai'n colli unrhyw wybodaeth arall.

Ond dywedodd bod hyn wedi arwain at ganslo ei gymhorthdal ESA hefyd, am fod dau gyfeiriad ar ei gyfer ar system y DWP.

Fe lwyddodd Mr Evans yn ei ap锚l ac mae bellach wedi cael yr holl arian oedd yn ddyledus iddo, ond mae'n pryderu y gallai rhai pobl anabl ddioddef o broblemau iechyd meddwl pe byddan nhw wedi gorfod delio 芒 sefyllfa o'r fath.

"Dwn i ddim be' sy'n mynd 'mlaen yn y system les," meddai. "Mae'r system yma i helpu pobl fregus, ond dyw ddim yn gwneud hynny."