大象传媒

'Dim gwybodaeth' gan y Grid ar dwnnel gwifrau dan y Fenai

  • Cyhoeddwyd
peilonau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Peilonau sy'n cario trydan dros y Fenai ar hyn o bryd - mae'r Grid eisiau i'r gwifrau newydd gael eu cludo mewn twnnel, ond mae rhai wedi awgrymu y gallen nhw fod yn rhan o ddyluniad trydedd bont

Mae Cyngor Ynys M么n wedi cyhuddo'r Grid Cenedlaethol o beidio rhannu gwybodaeth am dwnnel allai gael ei gloddio i gludo trydan o Wylfa Newydd i'r tir mawr.

Yn 么l y cynghorydd Carwyn Jones, mae'r Grid wedi gwrthod cyfarfod efo'r cyngor ers dwy flynedd.

Y twnnel dan y Fenai yw'r opsiwn mae'r Grid yn ei ffafrio er mwyn cysylltu peilonau M么n a'r rhwydwaith ehangach - er bod rhai am weld y gwifrau hynny'n cael eu cludo ar drydedd bont, pe bai honno'n cael ei gwireddu.

Yn 么l y Grid Cenedlaethol, maen nhw wedi rhannu 40,000 o ddogfennau technegol gyda'r cyngor, a chwrdd 芒 swyddogion ac aelodau 120 o weithiau.

'Ddim yn gwrando'

Dywedodd y cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio prosiectau mawr y cyngor, bod L么n Pont Rhonwy yn Llanfairpwll yn un ffordd allai gael ei chau am hyd at bum mlynedd wrth i'r twnnel gael ei gloddio.

Mae'n dweud nad ydy pobl yn ymwybodol o hyn yn lleol, ac nad ydy'r cyngor yn medru gweithio ar gynlluniau lliniaru am nad ydy'r wybodaeth berthnasol ganddyn nhw.

"Mae 'na ryw 400 o gerbydau lleol y diwrnod yn defnyddio'r l么n yma, felly mae'r effaith yn mynd i fod yn fawr ar y bobl leol," meddai.

Ychwanegodd nad oedd cynghorwyr yn teimlo eu bod wedi cael digon o wybodaeth gan y Grid Cenedlaethol am eu cynlluniau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder yn lleol y gallai'r ffordd hon gael ei chau am bum mlynedd wrth i'r gwaith o adeiladu'r twnel ddigwydd

"Mae gennym ni gyngor newydd [ers] flwyddyn diwetha', mae 'na rai cynghorwyr 'rioed o gwbl wedi siarad gyda'r Grid. D'yn nhw ddim yn gwrando ar ein pryderon ni, d'yn nhw ddim yn cymryd ymlaen ein sylwadau ni."

Dywedodd y Grid Cenedlaethol eu bod yn gwadu'r honiadau nad ydyn nhw wedi rhannu gwybodaeth, a'u bod wedi cynnal nifer o gyfarfodydd a gweithdai i esbonio effaith eu cynlluniau.

"Rydyn ni hefyd wedi ymgynghori'n helaeth gyda chymunedau lleol ac wedi derbyn cannoedd o ddarnau o adborth ganddyn nhw ar bob elfen o'n prosiect," meddai llefarydd.

"Bydd y wybodaeth yma'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau fod ein cynigion, fydd yn datgloi'r biliynau o bunnau o fuddsoddiad a miloedd o swyddi fydd yn dod yn sgil Wylfa Newydd, yn taro'r cydbwysedd cywir."