Siop yn tynnu addurniadau Jac yr Undeb wedi cwynion
- Cyhoeddwyd
Mae siop yn Aberystwyth wedi tynnu baneri Jac yr Undeb o'u ffenest flaen yn dilyn cwynion gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd siop Oxfam yn y dref wedi gosod yr addurniadau, ynghyd 芒 lluniau o wynebau'r Tywysog Harri a Meghan Markle, yn y ffenest ar drothwy'r briodas frenhinol ddydd Sadwrn.
Ond fe wnaeth hynny arwain at gwynion ar Twitter, gyda'r siop yn cael eu rhybuddio y bydden nhw'n "colli cwsmeriaid a rhoddion".
Ddydd Gwener fe gadarnhaodd aelod o staff fod yr addurniadau bellach wedi eu tynnu oddi yno.
Dywedodd Oxfam Cymru nad eu "bwriad o gwbl yw mynd ati i sarhau ein cefnogwyr neu aelodau o'r cyhoedd".
'Gwarthus'
Daeth yr addurniadau i sylw ehangach ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher wedi i'r bardd Gruffudd Antur drydar llun o du blaen y siop.
Yn ei neges dywedodd: "Annwyl @oxfamgb - dwi ddim yn gwybod ble i ddechrau efo hwn. Yr unig beth ddyweda i, ar lefel ymarferol, ydi bod rheolwr eich siop lyfrau yn Aberystwyth yn ymddangos yn benderfynol o golli cwsmeriaid a rhoddion."
Fe wnaeth defnyddwyr eraill ar Twitter ategu'r cwynion, gan ddisgrifio'r penderfyniad fel un "gwarthus" ac awgrymu y dylai staff gael eu hyfforddi i ddeall "sensitifrwydd diwylliannol".
Fe wnaeth cyfrif Twitter Oxfam ymateb i rai o'r negeseuon, gan ddweud bod yn flin ganddyn nhw glywed fod yr addurniadau wedi pechu rhai pobl a gofyn iddyn nhw gysylltu 芒'r elusen.
Yn ddiweddarach, fe gadarnhaodd y siop fod y baneri a lluniau o wynebau'r p芒r bellach wedi eu tynnu o'r ffenestr.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Oxfam Cymru: "Mae Oxfam yn fudiad diduedd a seciwlar, ac yn 么l ein polisi, nid ydym yn hyrwyddo'r un grefydd, plaid wleidyddol, gr诺p neu fudiad dros unrhyw un arall.
"Mae ein rheolwyr siopau yn gosod ffenestri blaen eu siopau i fod mor atyniadol ag sydd yn bosib i annog pobl i siopa ac i roddi nwyddau yno.
"Mae'r arddangosfeydd wedi'u cynllunio ar gyfer annog pobl i gefnogi Oxfam a'r gwaith sydd yn cael ei wneud gyda rhai o bobl dlotaf a difreintiedig y byd.
"Nid ein bwriad o gwbl yw mynd ati i sarhau ein cefnogwyr neu aelodau o'r cyhoedd yn fwriadol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017