Rhybudd i ffermwyr wedi lladradau beiciau cwad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori ffermwyr i fod yn wyliadwrus wedi i 30 o feiciau cwad gael eu dwyn yn ardal y llu ers mis Tachwedd.
Mae 18 beic wedi eu dwyn yn Sir Gaerfyrddin, gyda 13 o'r rheiny wedi cael eu dwyn o ffermydd yn y sir ers mis Mawrth.
Dywedodd ffermwr o ardal Caerfyrddin wrth 大象传媒 Cymru bod lladrad liw nos ar y fferm wedi cael ergyd ar ei hyder, ar 么l iddo golli dau feic cwad mewn un noson.
'Teimlad ofnadwy'
"Dwgodd rywun fy quad bikes i yn ganol nos. Mae'n deimlad ofnadwy," meddai'r ffermwr, oedd eisiau aros yn ddienw.
"Heblaw am y gost, chi'n gweld eisiau'r beic straight away. Dyw e ddim yn deimlad neis iawn, a dweud y gwir.
"Fel ffermwr, chi mas yn y nos - chi ddim yn meddwl bod neb amwbyti'r lle, ond maen nhw wedi bod.
"'Na gyd sydd ar eich meddwl chi a bod yn onest. Licen i gael y beics nol a bod yr heddlu yn gallu dala nhw.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori ffermwyr lleol i gadw eu hoffer yn ddiogel.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason: "Rwy'n gofyn i ffermwyr lleol i weithredu er mwyn lleihau'r perygl o ladrad.
"Mae hynny'n golygu peidio 芒 gadael allweddi yn y cerbydau, a chloi adeiladau ble mae beiciau cwad yn cael eu cadw.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd yn byw mewn cymuned wledig i fod yn wyliadwrus, ac i gysylltu 芒'r heddlu ar 101 os ydyn nhw yn gweld cerbydau amheus."
'Pryder'
Yn 么l Brian Richards o Undeb Amaethwyr Cymru mae'r achosion o ddwyn yn destun pryder i aelodau.
"Mae'n dipyn o bryder. Meddwl bod rhywun yn dwyn y beic a meddwl beth arall maen nhw wedi gweld," meddai.
"Mae'n rhaid ceisio cloi'r beics lan gyda'r nos. Dwi'n gwybod bod e'n lot o waith. Mae'n werth ceisio cadw peiriant o'u blaen nhw."
Yn ystod y misoedd diwethaf mae yna achosion o ddwyn wedi eu cofnodi ym Mheniel, Doc Penfro, Llandeilo a Llanybri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd14 Awst 2017