大象传媒

Y cr茂wr tref sy'n hybu'r Gymraeg yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Chris BaglinFfynhonnell y llun, Barry Hamilton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ai Chris Baglin yw'r unig gr茂wr tref sy'n defnyddio'r Gymraeg?

Os oes yna gr茂wyr tref dwyieithog arall yng Nghymru, mae Chris Baglin eisiau clywed ganddyn nhw.

Mae Chris newydd ei benodi yn gr茂wr tref (town crier) i Gyngor Tref Treffynnon ac mae eisiau gwybod ai fo ydi'r unig un sy'n gweiddi "Gosteg!" a "Clywch, clywch!" yn ogystal ag "Oyez, oyez".

"'Nes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i gael y swydd ddiwedd Ebrill," meddai Chris.

"Roedd yn rhan o 诺yl oedd yn digwydd yn Nhreffynnon i ddathlu gwybodaeth a chymdeithasau lleol ac roedden nhw eisiau rhywbeth i gyd-fynd efo'r syniad o adael i bobl wybod am bethau felly daeth y cyngor tref i fyny efo'r syniad o gystadleuaeth i gael cr茂wr tref newydd.

"Cyn y gystadleuaeth mi wnes i wneud ymchwil i'r ochr Gymraeg. Ar y diwrnod, roedd y gri roedden ni wedi ei chael yn uniaith Saesneg a mi wnes i gyfieithu fo ar y pryd wrth fynd ymlaen: fi oedd yr unig un wnaeth hynny a falle bod hyn o mhlaid i."

Efallai bod ei hyfforddiant fel actor ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn help hefyd.

"Mae gen i lais mawr dwi wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd - hanner naturiol a hanner hyfforddiant fel actor," meddai Chris, sydd hefyd yn gweithio i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ac yn gyn athro. Mae hefyd yn gweithio fel diddanwr plant dan yr enw Professor Llusern.

"Mae'r swydd yn rhoi cyfle i fi berfformio o flaen pobl, er mod i'n berson andros y swil yn gyffredinol."

Ffynhonnell y llun, Chris Baglin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Chris Baglin gyfieithu ei gyhoeddiad i'r Gymraeg wrth gystadlu am r么l y cr茂wr tref

Ers talwm, y cr茂wr tref oedd yn gyfrifol am ddod 芒 newyddion neu wybodaeth i bobl leol, swydd bwysig mewn cyfnod pan nad oedd llawer o bobl yn gallu darllen.

Erbyn hyn, mae hi'n swydd fwy seremon茂ol meddai Chris.

Un o'i ddyletswyddau yw cyhoeddi agoriad cyfarfodydd y cyngor ac mae'n gynrychiolydd mewn gwyliau a digwyddiadau lleol.

Cefnogaeth i'r iaith

Ychydig o drefi sydd 芒 chr茂wr tref bellach ond penderfynodd cyngor tref Treffynnon benodi un er mwyn hybu'r dref.

Ond mae hi'n r么l bwysig o ran hyrwyddo'r Gymraeg hefyd i Chris, sy'n byw ym Mostyn, Sir y Fflint ond o Drefor yng Ngwynedd yn wreiddiol.

"Rydyn ni'n ardal sydd ddim mor Gymreig a hynny [o ran yr iaith], er bod na bocedi o siaradwyr, ac mae pobl yn gefnogol i'r iaith," meddai.

"Ond mae 'na lot o bobl sydd ddim yn gyfforddus yn ei defnyddio hi a 'falle bod gennyn nhw ofn gwneud camgymeriad.

"Fydda i'n ffeindio weithiau bod pobl ddim eisiau trosi pethau rhag ofn iddyn nhw wneud camgymeriad lle dwi'n meddwl, rhowch dro arni - rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ffaith eich bod chi wedi trio - dwi ddim yn poeni os nad ydi pethau'n berffaith, dwi jyst yn mynd amdani.

"Pan rydyn ni'n siarad rydyn ni i gyd yn defnyddio tafodiaith a slang a geiriau benthyg - dwi ddim yn poeni'n ormodol, jyst eisiau clywed yr iaith allan yna ydw i.

"Mae na ysgolion uniaith Gymraeg yn yr ardal a wastad galw - does na ddim digon o ysgolion yma.

"Mae'r ardaloedd yma'n gefnogol iawn i'r iaith ond mae yna genhedlaeth sydd wedi colli allan ar yr iaith ond yn gweld y gwerth ynddi - achos maen nhw r诺an yn danfon eu plant a'u wyrion i ysgolion Cymraeg.

"Falle bod rhai wedi bod drwy'r ysgolion Cymraeg ond does dim cyfle iddyn nhw ei defnyddio a dyna lle rydyn ni'n dod mewn yn y fenter iaith, rydyn ni'n trio creu'r cyfleoedd yma a creu'r rhwydweithiau i bobl ddefnyddio'u Cymraeg a'i chadw i fynd.

"Mae pethau fel hyn yn helpu achos mae pobl yn clywed y Gymraeg allan ar y stryd, clywed pethau yn Gymraeg yn gyntaf, wedyn mae cyfle iddyn nhw drio ei ddallt yn y Gymraeg ac os nad ydyn nhw cweit yn gael o, mae 'na Saesneg i ddilyn.

"Mae'n dod yn iaith swyddogol y cyngor wedyn."

Ffynhonnell y llun, Barry Hamilton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cr茂wr Tref Treffynnon gyda chyn faer a maeres y dref, Joseph a Susan Johnson

Ers iddo gael y swydd, mae Cyngor Tref Treffynnon wedi bod yn gefnogol iawn i'w r么l ddwyieithog, meddai Chris.

"Mae Cyngor Tref Treffynnon wedi dechrau trosi popeth imi r诺an. Does dim rhaid imi gyfieithu ar y pryd - mae popeth dwi'n gael ganddyn nhw yn ddwyieithog, felly maen nhw wedi dod on board efo fo yn syth.

"Mae'n eu hannog nhw i ddweud 'mae gynnon ni rywun sy'n siarad Cymraeg'.

"Yr un peth dwi'n cael ychydig o broblem efo fo ar hyn o bryd ydy mod i'n trio ymuno efo cymuned o gr茂wyr tref, cymdeithasau fel The Guild of Town Criers, ond yn eu rheolau maen nhw'n dweud bod rhaid i bob cri tref orffen efo'r geiriau 'God Save the Queen'.

"Ond dydi pawb ddim yn teimlo'r un ffordd y dyddiau yma... felly mae'n rhaid inni ffeindio ffordd o fod yn hyblyg a sensitif i deimladau pobl.

"Falle byddai'n fwy addas i rywun fel fi orffen efo'r geiriau 'Cymru am byth', gan mai fi, hyd y gwn i, ydi'r unig gr茂wr tref sy'n gallu gwneud y gri yn Gymraeg ar hyn o bryd - dwi'n dal i wneud ymholiadau mewn i hynny ond faswn i wrth fy modd yn cael clywed os oes na rywun arall a sut basen ni'n cael rownd problemau bach fel yna."

  • Clywch, clywch! Ers cyhoeddi'r stori hon mae Chris wedi clywed gan gr茂wr tref arall sy'n defnyddio'r Gymraeg yn y Gelli Gandryll yng nghanolbarth Cymru.