大象传媒

Huw Stephens yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
huw stephensFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai'r cyflwynydd a'r DJ Huw Stephens fydd Llywydd yr 糯yl yng Nghaerdydd eleni.

Bellach mae'r brodor o'r brifddinas, a chyn-ddisgybl Ysgol Glantaf, yn un o brif gyflwynwyr 大象传媒 Radio 1 a hefyd yn cyflwyno'n wythnosol ar 大象传媒 Radio Cymru.

Fel rhan o'i r么l fe fydd yn annerch cynulleidfa'r Pafiliwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod wythnos y Brifwyl, sy'n cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst.

Bydd hefyd yn cyflwyno Gig y Pafiliwn ar nos Fawrth yr Eisteddfod eleni, a hynny am y trydydd tro.

'Braint fawr'

Fe wnaeth Huw Stephens ymuno 芒 Radio 1 yn 17 oed, gan roi cyfle iddo ddilyn ei angerdd am gerddoriaeth newydd.

Mae bellach yn wyneb a llais cyfarwydd ar y tonfeddi a'r teledu yng Nghymru a'r DU, gan gyflwyno hefyd ar Radio Cymru 2 a'r World Service.

Mae ei waith wedi mynd ag ef i lefydd gan gynnwys Venezuela, Patagonia, Barcelona, Gwlad yr I芒 a'r UDA, ac ef hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu G诺yl S诺n yng Nghaerdydd a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Wrth dderbyn yr anrhydedd dywedodd ei fod yn "fraint fawr" cael bod yn Llywydd yr 糯yl eleni.

"Caerdydd yw fy nghartref a fy nghanolbwynt, ac mae diwylliant Cymraeg yn rhan bwysig iawn o fy mywyd. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at wythnos arbennig yn ein prifddinas," meddai.

Llynedd hyfforddwr t卯m p锚l-droed Cymru, Osian Roberts oedd Llywydd y Brifwyl, gafodd ei chynnal yn Ynys M么n.