大象传媒

Penderfynu cadw ffrwd Saesneg ysgol yn y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
ysgol bro hyddgenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysgol Bro Hyddgen wedi'i lleoli ar safle hen Ysgol Bro Ddyfi

Ni fydd ffrwd Saesneg Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn cau wedi cyfarfod o'r llywodraethwyr nos Iau.

Yn ddiweddar fe dderbyniodd rhieni'r ysgol lythyr i ddweud bod y llywodraethwyr wedi cytuno mewn egwyddor i gau'r ffrwd i ddisgyblion newydd.

Ond nos Iau fe benderfynodd y corff na fyddai hynny'n digwydd, gyda'r ysgol yn bwriadu gofyn i Gyngor Powys gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda phobl leol yngl欧n 芒 beth fydden nhw'n hoffi gweld yn digwydd yn y dyfodol.

Mewn datganiad wedi'r cyfarfod dywedodd llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen: "Yn dilyn cyfarfod llawn y Llywodraethwyr ar 24 Mai penderfynwyd i beidio gwneud unrhyw newid ieithyddol i'r ysgol ym Medi 2018.

"Gwnaed hyn fel ymateb i bryderon a godwyd gan y gymuned. Bydd y Llywodraethwyr yn cysylltu'n fuan gyda [Chyngor] Powys er mwyn cychwyn y broses o gasglu barn y gymuned leol a dalgylch yr ysgol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tua 80 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod nos Lun i drafod y cynlluniau

Ysgol ddwy ffrwd yw Bro Hyddgen, sy'n darparu addysg ar gyfer tua 600 o ddisgyblion rhwng pedair a 18 oed.

Cafodd ei sefydlu yn 2014 pan gafodd Ysgol Gynradd Machynlleth ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi eu huno dan yr un pennaeth a'r un corff llywodraethol.

Daeth tua 80 o bobl i gyfarfod ym Machynlleth nos Lun, gyda'r mwyafrif o blaid y system ddwy ffrwd ac am gadw'r ffrwd Saesneg ar agor.

Cyn y cyfarfod nos Iau dywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander, sy'n gyfrifol am addysg a'r iaith Gymraeg ar gabinet Cyngor Powys: "Mae'r cyngor sir eisiau i'r ysgolion unigol edrych yn fanwl ar y problemau sydd ganddyn nhw a chael hyd i atebion.

"Mae cynnig y llywodraethwyr yn ymddangos i fi fel penderfyniad ymarferol i ymateb i sefyllfa gyllideb yr ysgol ar hyn o bryd."

Miliwn o siaradwyr

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod angen i "ysgolion a siroedd normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg", ac y byddai hynny'n "sicrhau bod disgyblion yn gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg".

"Dwi'n obeithiol y bydd yr ysgol yn troi yn un cyfan gwbl Gymraeg yn y pendraw," meddai Toni Schiavone, cadeirydd Gr诺p Addysg Cymdeithas yr Iaith.

"Wedi'r cwbl, mae'r cyngor newydd wneud addewid clir i symud yr ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol yn ei gynllun addysg Gymraeg.

"Mae'r newidiadau hyn yn hanfodol os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i gyrraedd ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg - sydd 芒 chefnogaeth eang ymysg y cyhoedd ac ar draws y pleidiau."