大象传媒

Hyderus o wireddu cynllun datblygu gwersylloedd yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Si芒n Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n Lewis yn cyhoeddi manylion y cynlluniau ar faes Eisteddfod yr urdd yn Llanelwedd

Mae'r Urdd yn dweud eu bod yn "hyderus" y bydd modd gwireddu cynlluniau uchelgeisiol gwerth 拢5.5m i ddatblygu gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn wedi trafodaethau "hynod o bositif" gyda chyrff allanol yngl欧n 芒 sicrhau arian cyfatebol.

Mae'r mudiad ieuenctid wedi cytuno i ariannu hanner y gost o adnewyddu ac ehangu'r safleoedd sy'n rhan o weledigaeth i roi mwy o brofiadau "arloesol" i blant a phobl ifanc y tu allan i'r dosbarth.

Mae'n fwriad i wario 拢1.2m ar wella'r cyfleusterau yng Nghanolfan Hyfforddi Gweithgareddau D诺r Glan-llyn, a 拢800,000 ar gyfer cyfleusterau arbenigol i grwpiau yng nganolfan addysgol Glan-llyn Isaf.

Mae cost cynllun datblygu 'Calon y Gwersyll' yn Llangrannog' - a gafodd ei gyhoeddi'n wreiddiol yn ystod Eisteddfod yr Urdd y llynedd - bellach wedi codi o 拢3m i 拢3.5m.

Os bydd y cynlluniau'r cael eu gwireddu fe fyddai'n creu 18 o swyddi llawn amser, cyfleoedd i 12 o brentisiaethau ac wyth lleoliad gwaith i bobl ag anghenion ychwanegol.

Ffynhonnell y llun, Purcell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darlun y penseiri o sut allai neuadd ymgynnull Llangrannog edrych o ganlyniad gwireddu cynllun 'Calon y Gwersyll'

Manylion y tri phrosiect

  • Canolfan addysgol Glan-llyn: Mae'r Urdd angen buddsoddiad o 拢800k ar gyfer cyfleusterau arbenigol ar gyfer ystod eang o grwpiau wedi i ddefnyddwyr ifanc alw am brofiad 'mwy annibynnol' o brif safle'r gwersyll. Mae'n fwriad i uwchraddio, addasu a datblygu Glan-llyn Isaf, sy'n 200 medr o brif adeiladau'r gwersyll, yn ganolfan breswyl 30 gwely i redeg ochr yn ochr 芒 Gwersyll Glan-llyn. Mae'r Urdd yn gobeithio y byddai darparu canolfan ar wah芒n yn creu cynulleidfa newydd i Lan-llyn gan gynyddu'r cyfleoedd i greu incwm.

  • Canolfan Hyfforddi Gweithgareddau D诺r Glan-llyn: Mae angen 拢1.2miliwn i wella adeiladau a chyfleusterau ardal y llyn, sydd heb eu huwchraddio ers 40 mlynedd. Dywed yr Urdd fod y galw am weithgareddau d诺r yn cynyddu ac felly mae angen yr hyblygrwydd i gynnig hyfforddiant i nifer o grwpiau ar yr un pryd, gan fanteisio ar drwydded y ganolfan sy'n caniat谩u mynediad Lyn Tegid.

  • Calon y Gwersyll - Gwersyll Llangrannog: 拢3.5m yw cost amcangyfrif diweddaraf costau trawsnewid 'Calon y Gwersyll' - cynllun fyddai'u gweld adeiladau newydd yn lle'r hen adeiladau pren presennol, sydd, yn 么l yr Urdd, ddim bellach "yn medru ymdopi gyda gofynion y grwpiau amrywiol". Bydd y buddsoddiad, medd y mudiad, yn sylfaen i'r gwersyll "berfformio'n effeithlon ac yn effeithiol" ac yn cynyddu'r niferoedd sy'n gallu ymweld 芒'r safle yn ddyddiol ac yn wythnosol.

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Si芒n Lewis eu bod wedi trafod gyda gwahanol ffynonellau yngl欧n 芒 chodi'r arian a bod yr ymateb wedi bod yn hynod o bositif.

"Mae'r Urdd yn cytuno i roi 50% o'r arian ac rydym yn gweithio ar geisiadau grant a trafodaethau gyda ffynonellau eraill ond rydyn yn hyderus ein bod yn gallu cyrraedd y nod," meddai.

"Fy ngweledigaeth i ydi gweld gwersylloedd Glan-llyn a Llangrannog yn cael eu datblygu yn ganolfannau sy'n arloesi yn y cysyniad o 'ddysgu tu allan i'r dosbarth' - dysgu cyffrous ac apelgar mewn amgylchedd diogel i alluogi plant a phobl ifanc i ddysgu, datblygu'n bersonol a chymdeithasol ac i gynyddu eu hyder yn eu defnydd o'r Gymraeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyn Tegid yng Ngwersyll Yr Urdd Glan-llyn

Cyfeiriodd Ms Lewis at adroddiad mewnol sy'n dangos bod ysgolion a sefydliadau addysg eisoes yn gweld gwerth a chynnydd yn yr agwedd a'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc ar 么l ymweld 芒'r gwersylloedd. Roedd:

  • 83% wedi gweld cynnydd yn nefnydd iaith eu disgyblion;

  • 76% o ddisgyblion wedi cynyddu eu defnydd o ymarfer corff yn gyffredinol;

  • 96% yn gweld gwelliant yn eu hunan hyder;

  • 64% wedi parhau 芒'r gweithgareddau ar 么l eu profi am y tro cyntaf yn Llangrannog; a

  • 97% wedi gwneud ffrind newydd.

Dywed Ms Lewis bod 56% o ysgolion Cymru'n defnyddio'u gwersylloedd, a bod y safleoedd yn apelio at ysgolion mewn ardaloedd llai Cymraeg.

"Mae yn helpu gyda elfen asddysg Gymaeg yn naturiol ac mae yn adnodd maen nhw yn ei ddefnyddio i ymarfer eu Cymraeg," meddai.

"Yn ddelfrydol, byddwn am i bob ysgol yng Nghymru allu manteisio ar y gwersyllloedd... o ran y profiadau preswyl 'den ni'n denu 728 o ysgolion y flwyddyn i fynychu'r gwersylloedd ac mae hwnna'n nifer sylweddol."