Ras hwylio enfawr yn dod i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae un o rasys hwylio mwya'r byd, , wedi cyrraedd Caerdydd - y tro cyntaf erioed i'r ras ymweld 芒 Phrydain.
Mae'n cael ei ystyried yn un o uchafbwyntiau'r byd hwylio. Eleni, mae saith cwch yn rasio 46,00 milltir f么r o amgylch y byd, gan alw mewn 12 dinas ar draws chwe chyfandir, mewn naw mis.
Bore Mawrth, 29 Mai, hwyliodd y cwch Turn the Tide of Plastic i borthladd Caerdydd yn y 6ed safle, gyda'r Ddraig Goch yn cwhwfan yn falch arno, gan fod unig Gymro Cymraeg y gystadleuaeth, Bleddyn M么n, yn rhan o'r criw.
Cafodd Bleddyn, sy'n wreiddiol o Amlwch, wybod ei fod wedi cael lle i weithio ar y cwch fis Awst diwethaf, ac wedi bod yn hwylio arno ers mis Hydref.
Dywedodd fod cael cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn arbennig iawn, a bod y gymal ddiweddaraf, o Newport, UDA i Gaerdydd yn rhywbeth mae wedi edrych ymlaen ato o'r dechrau, gan ei fod yn cael dod yn 么l i'w wlad enedigol.
Yn 么l cyfrif Twitter cwch Turn the Tide of Plastic, nid yw yn mynd yn dda iawn, ond mae dwy gymal arall ar 么l cyn i'r ras orffen yn yr Hague, yr Iseldiroedd, felly mae yna dal ychydig o amser i ymarfer!
Ras rhwng y Cymry
Nid Bleddyn yw'r unig Gymro yn y ras - cafodd Trystan Seal, sydd yn hwyllio ar Sun Hung Kai/Scallywag, ei fagu yng Ngheinewydd.
Mae cael hwylio i Gaerdydd yn arbennig iawn iddo yntau hefyd, ac roedd yn edrych ymlaen fod ei deulu yn dod i'w groesawu n么l i Gymru
Mae Bleddyn ac yntau yn gystadleuol, meddai Trystan, a'r ddau eisiau bod y Cymro cyntaf i gyrraedd Caerdydd.
Yn anffodus i Trystan, cwch Bleddyn aeth a hi, gyda chwch Trystan yn y safle olaf.
Mae'r pentref rasio mawr wedi ei leoli ar y morglawdd ym Mae Caerdydd, sef cartref y ras enfawr o 27 Mai tan 10 Mehefin, cyn i'r morwyr adael am Gothenburg, Sweden ar gyfer y cymal nesaf.