Gwaith atgyweirio yn cau rhan o bier Bangor am naw mis
- Cyhoeddwyd
Bydd atyniad poblogaidd yng ngogledd Cymru yn cau yn rhannol am naw mis o ganlyniad i bryderon am iechyd a diogelwch.
Mae Cyngor Dinas Bangor wedi cadarnhau y bydd gwaith atgyweirio yn digwydd ar bier y ddinas ar 么l i adroddiad gan beirianwyr godi pryderon am ddiogelwch.
Ni fydd modd i'r cyhoedd gael mynediad at ben pellaf y pier ble mae'r Pafiliwn T锚 o 4 Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Bangor: "O ganlyniad i iechyd a diogelwch ac ar 么l adroddiad gan beirianwyr adeiladu, bydd yr ardal sy'n cael ei adnabod fel Pierhead ar gau o 4 Mehefin gan fod yr adeiledd yn beryglus i'r cyhoedd.
"Yn anffodus bydd y Pafiliwn T锚 ar gau nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau, gyda'r posibilrwydd i hynny gymryd naw mis."
Fe agorwyd y pier yn 1896 ac mae'r atyniad yn ymestyn allan i afon Menai.
Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu gostio 拢1m ac mae'r arian wedi dod o gronfeydd cyfalaf Cyngor Dinas Bangor.
Y tro diwethaf i waith tebyg gael ei gwblhau ar y pier oedd yn 1986.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015