Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gruffydd Wyn ddim yn ennill Britain's Got Talent
Doedd perfformiad "anhygoel" Gruffydd Wyn Roberts yn rownd derfynol Britain's Got Talent ddim yn ddigon iddo ennill y gystadleuaeth.
Roedd y gynulleidfa a'r beirniaid ar eu traed ar gyfer perfformiad Gruffydd, 22 oed o Amlwch, oedd yn fyw ar ITV1 nos Sul. Fe ganodd Perfect Symphony gan Ed Sheeran ac Andrea Bocelli.
Cafodd ganmoliaeth uchel gan y pedwar beirniad - Amanda Holden, Simon Cowell, David Walliams ac Alesha Dixon - ac fe ddisgrifiwyd ei berfformiad fel un "perffaith" ac "anhygoel".
Gwylwyr y sioe oedd yn dewis yr enillydd, a hynny drwy bleidlais, a Lost Voice Guy oedd yn fuddugol - mi fydd yn mynd ymlaen i berfformio yn y Royal Variety Performance.
Fe wnaeth cannoedd o bobl leol wylio perfformiad Gruffydd ar sgr卯n fawr ym Mhorth Amlwch.
Fe enillodd Gruffydd le yn y ffeinal drwy bleidlais y gwylwyr yn y rownd gyn-derfynol nos Fercher yn yr Apollo, Hammersmith.
Fe ganodd Nelle Tue Mani, gafodd ei chanu gan Andrea Bocelli yn y ffilm Gladiator.
Roedd eisoes wedi swyno'r beirniaid yn y rownd gyntaf gyda'i berfformiad arbennig o Nessun Dorma.
'Diolch am y gefnogaeth'
Cyn y ffeinal dywedodd Osian, brawd mawr Gruffydd: "Mae'r gefnogaeth mae Gruff wedi ei gael gan bobl Amlwch, pobl Ynys M么n a phobl Cymru wedi bod yn ffantastig".
"Mae'i fyd o wedi newid ar ei ben" ychwanegodd, "a rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb."
Gallwch wylio perfformiad Gruff yn y rownd derfynol nos Sul ar .