Hel茅na Herklots yw Comisiynydd Pobl H欧n newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Hel茅na Herklots fydd Comisiynydd Pobl H欧n nesaf Cymru.
Hi yw prif weithredwr elusen Carers UK ar hyn o bryd, ac mae ganddi dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn cefnogi ac yn gweithio gyda phobl h欧n.
Oherwydd ei gwaith yn y maes fe gafodd ei hurddo gyda CBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2017.
Wrth ddisgrifio'r "fraint ac anrhydedd" o gael y swydd fe ddywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at weithio gyda phobl ledled Cymru yn y r么l allweddol hon i ddiogelu hawliau pobl h欧n a'u hyrwyddo".
Mae wedi ei phenodi am dymor o bedair blynedd i gychwyn, ac yn dechrau ar y gwaith ym mis Awst ar gyflog o 拢90,000 y flwyddyn.
Llais i bobl h欧n
Prif Weinidog Cymru sydd wedi gwneud y penodiad, yn dilyn proses benodiadau cyhoeddus oedd yn cynnwys cynrychiolwyr pobl h欧n a gr诺p o ACau yn cynrychioli'r gwahanol bleidiau yn y Cynulliad.
Ms Herklots yw trydydd Comisiynydd Pobl H欧n Cymru ers i'r swydd gael ei chreu yn 2008 i fod yn llais annibynnol dros unigolion dros 60 oed yng Nghymru.
Daeth cyfnod ei rhagflaenydd, Sarah Rochira i ben yr wythnos hon wedi chwe blynedd.
Ymhlith cyfrifoldebau'r Comisiynydd mae hyrwyddo hawliau pobl h欧n yng Nghymru, herio gwahaniaethau yn eu herbyn, ac adolygu'r gyfraith sy'n effeithio ar eu buddiannau.
Mae swyddfa'r Comisiynydd wedi ymchwilio i nifer o faterion yn ymwneud 芒 phobl h欧n, gan gynnwys cartrefi gofal, gwasanaethau meddygon teulu a sicrhau parch ac urddas i unigolion.
Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl H欧n a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies bod y Comisiynydd yn "gwrando ar eu barn a'u pryderon ac yn gweithredu er eu lles" gan ychwanegu ei fod yn "edrych ymlaen at weithio gyda Hel茅na yn ei r么l newydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd11 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012