´óÏó´«Ã½

Llywodraeth y DU yn gwrthod morlyn llanw Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n rhoi cefnogaeth i forlyn llanw Bae Abertawe.

Ers misoedd mae'r cwmni y tu ôl i'r datblygiad, Tidal Lagoon Power (TLP), wedi bod yn gofyn am eglurdeb ynglŷn ag a fyddan nhw'n gallu bwrw ymlaen â'r cynllun ai peidio.

Fe wnaeth adroddiad gan y cyn-weinidog ynni, Charles Hendry ym mis Ionawr 2017 .

Ond ddydd Llun dywedodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU, Greg Clark na fyddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.

Er yn cydnabod y byddai'r cyhoeddiad yn siom i lawer, amddiffyn y cyhoeddiad wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Mynnodd bod ei lywodraeth yn dal wedi ymrwymo i ynni adnewyddol, ond y byddai'r "cwsmer a'r diwydiant wedi bod yn talu prisiau anghymesur am drydan" o dan y cynllun penodol yma.

Y cefndir

Bwriad TLP oedd adeiladu morlyn gyda 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd yn Abertawe, fyddai'n darparu digon o drydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.

Roedd hefyd yn cael ei weld fel cynllun prawf ar gyfer prosiectau llawer mwy yn y dyfodol, gyda'r cwmni yn bwriadu adeiladu pum morlyn arall ar hyd arfordir Cymru a Lloegr os oedd un Abertawe'n profi'n llwyddiant.

Ond gyda Llywodraeth y DU yn parhau i oedi cyn ymateb i'r adroddiad, cafwyd rhybuddion y gallai cwmnïau oedd am fuddsoddi yn y datblygiad .

Ffynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r morlyn wedi gallu darparu trydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd

Ym mis Ionawr eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru er mwyn symud y cynllun yn ei flaen, ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns .

Un o'r prif faterion oedd yn destun pryder oedd y 'pris gosod' ar gyfer y cynllun, sef y pris y byddai'r llywodraeth yn cytuno i brynu'r trydan oedd yn cael ei gynhyrchu gan y morlyn.

Roedd TLP wedi gofyn am , gyda phris cychwynnol o £123 yr awr megawat o drydan sy'n cael ei gynhyrchu yn y flwyddyn gyntaf.

Byddai hynny'n lleihau dros amser, ond roedd dal yn sylweddol uwch na chynlluniau eraill ar gyfer ynni morol.

Disgrifiad,

Harry Lloyd Davies, cadeirydd Siambr Fasnach De Cymru, sy'n ymateb i'r cyhoeddiad

Mae'r ymateb i'r cyhoeddi wedi bod yn un o siom.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae'n warthus bod y Ceidwadwyr wedi gwrthod Morlyn Llanw Abertawe.

"Byddai'r morlyn llanw wedi bod yn gam cyntaf hanfodol i wneud Cymru yn arweinydd y byd mewn ynni gwyrdd, gan ddod â buddion amgylcheddol ac economaidd di-ri i'r gymuned, Cymru a'r DU."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Carwyn Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Carwyn Jones

'Dinistriol'

Mae aelodau etholedig - ASau, ACau ac arweinwyr cynghorau - de-orllewin Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i fynegi eu siom.

Dywedodd y datganiad: "Mae'r newyddion yma yn ddinistriol i ardal Bae Abertawe.

"Wedi misoedd o lusgo'u traed, a mwy na blwyddyn wedi i adolygiad Hendry gefnogi'r cynllun, unwaith eto mae Llywodraeth y DU wedi methu yn ei dyletswydd i gefnogi cymunedau de-orllewin Cymru ac wedi bradychu pobl Cymru.

"Mae Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru wedi goruchwylio dros ddileu arian trydaneiddio rheilffyrdd o £400m-£700m a nawr wedi methu cefnogi £1.3bn ar gyfer y morlyn llanw.

"Dyna £2bn sydd wedi ei rwygo o economi de Cymru gan ladd swyddi a gwrthod cyfleoedd i deuluoedd a chymunedau de Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns bod datblygwr eraill "â chynlluniau tebyg, sy'n costio llawer yn llai"

Dywedodd Plaid Cymru fod y llywodraeth wedi gwrthod y cynllun er i'r prosiect dderbyn cefnogaeth pob un o'r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ôl Liz Saville Roberts, llefarydd y blaid ar Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, mae'r penderfyniad yn dangos yr angen i Gymru gael mwy o reolaeth dros ei dyfodol.

"Mae pob plaid sy'n cael eu cynrychioli yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cefnogi Cynllun Lagŵn Bae Abertawe, ond mae San Steffan wedi dweud na allwn ei wneud o," meddai.

"Mae'n sefyllfa drist pan fod ein senedd genedlaethol yn gallu cael ei anwybyddu gan Lywodraeth San Steffan, llywodraeth na ddaru bobl Cymru ei hethol."

Galw am ymddiswyddiad

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, gerbron y Cynulliad yn dilyn y penderfyniad i wrthod y morlyn.

Galwodd Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe hefyd am ei ymddiswyddiad, gan ddweud: "Dyw Alun Cairns methu siarad dros nac o blaid Cymru, dyw e methu buddsoddi yng Nghymru ac nid yw'n ffit i fod yn Ysgrifennydd Cymru."

Ymatebodd Mr Cairns drwy ddweud: "Rwy'n sylweddoli'r siom y gallai'r cyhoeddiad yma ei achosi, ond yn y pen draw nid oedd y cynllun yma'n cwrdd â'r meini prawf gwerth am arian i'r trethdalwyr.

"Y realiti yw y byddai'r cwsmer a'r diwydiant wedi bod yn talu prisiau anghymesur am drydan pan mae dewisiadau eraill rhatach ar gael.

"Mae'n bwysig nodi mae'r mater dan sylw fan hyn yw cynllun penodol y morlyn llanw yma, nid y cysyniad o ynni morol.

"Mae swyddfa Ysgrifennydd Cymru a'r llywodraeth yn ehangach wedi ymrwymo i ynni adnewyddol, ac fe fyddwn yn parhau'n agored i ffynonellau gwahanol o hynny."