Llywodraeth Cymru'n cynnig 拢200m at forlyn Bae Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cynnig 拢200m i Lywodraeth y DU ei roi tuag at forlyn llanw Bae Abertawe.
Mewn llythyr, dywedodd Mr Jones wrth Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, Greg Clark y byddai hynny'n galluogi'r prosiect i "symud yn ei flaen".
Byddai'r cynnig yn golygu bod Llywodraeth Cymru'n cynnig ecwiti neu fenthyciad tuag at y datblygiad 拢1.3bn, gydag amod o gefnogaeth hefyd gan San Steffan.
Flwyddyn a hanner ers i adroddiad argymell y dylid bwrw ymlaen 芒'r cynllun, dyw Llywodraeth y DU dal ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y morlyn llanw.
Daw ar 么l i'r 大象传媒 weld e-bost gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn mynegi pryder am gost y morlyn, a dweud bod "y ffigyrau yn ofnadwy".
'Ansicrwydd'
Mae llythyr Mr Jones yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnig yr un pris ar gyfer y trydan o'r morlyn ac y gwnaethon nhw ar gyfer gorsaf niwclear newydd Hinkley Point C.
Petaen nhw'n gwneud hynny, meddai, gallai llywodraethau Cymru a'r DU wneud "cynnig ar y cyd" er mwyn gwireddu'r cynllun.
"Yn gyffredinol, fy nghynnig fyddai i'r cynnig gynnwys ymrwymiad o ecwiti neu fenthyciad o 拢200m gan Lywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gytundeb ar yr un termau a'r hynny gafodd ei gynnig i Hinkley Point C (拢92.50/MWH ym mhrisiau 2012 dros 35 mlynedd o ddiwrnod y comisiynu)," meddai Mr Jones.
Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r ddwy lywodraeth gyflwyno cynnig "llawn a therfynol" i Tidal Lagoon Power, y cwmni sy'n gyfrifol am y datblygiad, er mwyn dod 芒'r "ansicrwydd i ben".
Bwriad TLP yw adeiladu morlyn gyda 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd yn Abertawe, fyddai'n darparu digon o drydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.
Roedd hefyd yn cael ei weld fel cynllun prawf ar gyfer prosiectau llawer mwy yn y dyfodol, gyda'r cwmni yn bwriadu adeiladu pum morlyn arall ar hyd arfordir Cymru a Lloegr os oedd un Abertawe'n profi'n llwyddiant.
Mae cadeirydd TLP wedi mynnu bod y dechnoleg yn gystadleuol 芒 ph诺er niwclear a systemau ynni adnewyddol eraill o safbwynt ariannol.
Ond mae adroddiadau y bydd y cynllun yn cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU yr wythnos hon.
'Gwerth am arian'
Ddydd Mawrth daeth i'r amlwg fod Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi mynegi pryder am gost y morlyn.
Mewn e-bost sydd wedi'i weld gan 大象传媒 Cymru, dywedodd Mr Cairns: "Does dim penderfyniad wedi'i gymryd eto ac rydw i wedi bod o blaid y cynllun o'r dechrau, ond mae'r ffigyrau yn ofnadwy.
"Dwywaith pris niwclear, heb ddisgwyliad o wneud unrhyw arbedion sylweddol. Rydyn ni'n siarad 芒 datblygwr eraill sydd 芒 chynlluniau tebyg, sy'n costio llawer yn llai."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru ar raglen y Post Cyntaf na fyddai "neb yn diolch i ni os bydden ni'n cefnogi unrhyw gynllun sydd ddim yn rhoi gwerth arian i'r trethdalwyr".
Ond mynnodd cadeirydd TLP, Keith Clarke bod angen ystyried ynni llanw yn rhan o gymysgedd o ffynonellau ynni at y dyfodol.
"Gallwn ni fod yn cynhyrchu ynni o fewn pedair blynedd. Mae gyda ni ganiat芒d cynllunio sy'n gyfredol yn Abertawe," meddai.
"Os ydy'r llywodraeth wir eisiau edrych ar hyn, mae angen strategaeth hir dymor."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018