Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymry'n 'fwy cadarnhaol' na Saeson am ddyfodol eu gwlad
Mae Cymry'n teimlo'n fwy cadarnhaol am ddyfodol eu gwlad na phobl yn Lloegr, yn 么l arolwg ar gyfer y 大象传媒.
Dywedodd traean pobl Cymru (33%) fod dyddiau gorau'r genedl eto i ddod, o'i gymharu ag 20% oedd yn credu fod Cymru'n well yn y gorffennol.
Yn Lloegr fodd bynnag, roedd bron i hanner (49%) yn meddwl bod pethau'n well o'r blaen, gyda dim ond 17% yn disgwyl i'r wlad wella yn y dyfodol.
Mae Albanwyr hefyd yn fwy cadarnhaol na'r Saeson, gyda 29% yn dweud bod pethau'n arfer bod yn well, a 36% yn credu y byddai pethau'n gwella.
Cafodd yr arolwg .
Hunaniaeth
Fe wnaeth yr arolwg hefyd ganfod bod 79% yn dweud eu bod yn ystyried yn gryf eu bod yn Brydeinig, a 62% yn ystyried yn gryf eu bod yn Gymry.
Un esboniad posib am y gwahaniaeth hwnnw yw canran sylweddol poblogaeth Cymru sydd wedi'u geni y tu allan i'r wlad, gyda 21% yn cael eu geni yn Lloegr.
Doedd yr arolwg ddim yn dangos llawer o wahaniaeth rhwng pleidleiswyr Gadael ac Aros yn refferendwm yr UE pan oedd hi'n dod at deimlo'n Gymreig.
Ond roedd y rheiny o blaid Brexit ychydig yn fwy tebygol o deimlo'n Brydeinig, a llai tebygol o deimlo'n Ewropeaidd.
Etholwyr Plaid Cymru oedd fwyaf tebygol ymhlith y prif bleidiau gwleidyddol o ystyried yn gryf eu bod yn Gymry, ond roedd 71% hefyd yn dweud eu bod yn teimlo'n Brydeinig.
Yn 么l Bethan Harries, academydd o Brifysgol Manceinion sydd wedi astudio data'r Cyfrifiad, mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn ymddeol i Gymru yn un esboniad dros pam fod y genhedlaeth h欧n yn llai tebygol o ystyried eu hunain yn Gymry.
Mae pobl ifanc, meddai, "yn fwy tebygol o fod yn yr ysgol, ymwneud 芒 gweithgareddau diwylliannol a dysgu Cymraeg".
"Efallai bod hynny'n eu gwneud nhw'n fwy tebygol o weld eu hunain fel Cymry.
"Ble 'dyn ni'n gweld y newid mwyaf yw pan 'dych chi'n cyrraedd 60 oed. Ar y pwynt yna, mae canran llawer llai o'r boblogaeth yn dweud eu bod yn 'Gymreig yn unig', ac yn gweld eu hunain yn Gymreig a Phrydeinig."
Yng Nghwpan y Byd 2018 yn Rwsia eleni, dywedodd 18% o bobl yng Nghymru y bydden nhw'n cefnogi Lloegr, 6% y bydden nhw'n cefnogi gwrthwynebwyr Lloegr, a dros hanner (53%) nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb yn y gystadleuaeth.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod y cyhoedd yn meddwl mwy o wleidyddion yng Nghaerdydd nac yn San Steffan, gyda 30% yn dweud fod ACau yn adlewyrchu eu pryderon o'i gymharu 芒 10% o ASau.
Fodd bynnag, doedd 79% ddim yn teimlo bod ASau yn adlewyrchu eu pryderon, gyda 56% hefyd yn dweud yr un pethau am Aelodau Cynulliad.
Ymhlith cefnogwyr y pleidiau gwahanol, roedd etholwyr Llafur a Phlaid Cymru'n fwy tebygol na rhai'r Ceidwadwyr o ddweud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am nifer o benderfyniadau, yn hytrach na Llywodraeth y DU.
Yn gyffredinol, roedd mwy o bobl yn teimlo y dylai penderfyniadau dros bynciau fel addysg, iechyd, budd-daliadau, trethi busnes ac ynni niwclear gael eu gwneud yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain.
Ar bynciau fel treth incwm ac arfau niwclear, fodd bynnag, roedd mwy yn credu y dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yn San Steffan.
Dywedodd 71% o Geidwadwyr mai Llywodraeth y DU ddylai benderfynu beth yw lefel treth incwm, o'i gymharu 芒 22% a ddywedodd mai Llywodraeth Cymru ddylai wneud hynny - er bod y Tor茂aid yn San Steffan wedi datganoli'r grym hwnnw.
Cafodd yr arolwg o 1,036 o oedolion yng Nghymru ei wneud gan YouGov rhwng 25 Ebrill a 1 Mai.