大象传媒

Posteri Cymraeg y 19eg ganrif

  • Cyhoeddwyd

Mae yn digideiddio miloedd o ddogfennau a phapurau er mwyn eu gwneud ar gael ar wefannau am flynyddoedd i ddod.

Mae Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol y llyfrgell, wedi casglu nifer o bosteri a thaflenni Cymreig sy'n dyddio o'r 19eg ganrif ynghyd, a'u .

Dyma rai sydd yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd yn Nghymru Gymraeg yr 1800au.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'r werin 'di'i magu ar datws drwy'u crwyn" oedd c芒n Hogia'r Wyddfa, ac mae'r poster yma, o 1862, yn profi fod yna fynd mawr ar y 'Tato o'r Ywerddon' yn ardal Llangrannog

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tybed ai cynlluniau a newidiodd, neu a benderfynodd y cwmni yma ailgylchu posteri yn gwerthu lle ar long o Aberteifi i New Brunswick, Canada ym mis Ebrill 1820?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Dyw rheolau treth incwm erioed wedi bod yn syml

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Diflannodd 'Caseg Wineu-goch' John Philip ym mis Medi 1818. Mae'n cynnig gini o wobr i unrhyw un all ei dwyn yn 么l iddo, ond mae'r llun o ddyn yn crogi yn awgrymu na fyddai'n hapus iawn os yw'n dod i wybod pwy a ladratodd y gaseg yn y lle cynta'...

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma boster i nodi fod cwmni S Rooney Grant & Co o 'Fanchester' wedi mynd i'r wal - y Rhyfel Cartref yn America sydd yn cael ei feio. Diddorol fod y poster yn un dwyieithog

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er fod nifer wedi addo i Lewis Pugh Pugh eu bod am bleideisio drosto yn Etholiad Cyffredinol 1880, roedd eisiau sicrhau eu bod yn gwybod yn union sut i fwrw eu pleidlais. Mae'n rhaid fod y taflenni yma wedi gweithio - ef oedd Aelod Seneddol Ceredigion o 1880 tan 1885

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n si诺r fod beirdd a cherddorion ardal Tremadog wedi heidio i'r eisteddfod yma yn 1810

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd E Morgan eisiau hysbysu trigolion Machynlleth ei fod wedi adnewyddu ei stoc o ddefnyddiau a nwyddau yn ei siop ddillad a groser ar Stryd Maengwyn

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Collodd Eleanor Jones a'i theulu druan eu holl eiddo a'u cartref mewn t芒n yn 1864. Dyma gais i'w 'cymdogion a cydwladwyr Cristionogol' i roi arian iddi i'w helpu yn 么l ar ei thraed

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster hanfodol ar gyfer unrhyw ysgol - cafodd ei argraffu gan E Williams, Aberystwyth. Diddorol nodi nad yw 'Rh' yn cael ei ystyried yn rhan o'r wyddor yma, a thybed beth yw arwyddoc芒d nodi 'yr egwyddor blith-draphlith'?

Hefyd o ddiddordeb