大象传媒

Dadorchuddio coron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Coron a chadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018

Mae dwy o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi eu dadorchuddio mewn seremoni arbennig nos Fercher.

Mae Laura Thomas o Gastell Nedd wedi treulio dros 400 awr yn creu'r goron gyda dyluniad gwaith parquet sy'n cael ei ddisgrifio'n un "fodern ac eto'n parchu traddodiadau'r Eisteddfod".

Mae cadair y cerflunydd o Gwm Rhondda, Chris Williams yn ymateb i her y noddwyr, Amgueddfa Cymru, i greu cadair 芒 chysylltiad ag Amgueddfa Werin Sain Ffagan, sy'n 70 oed eleni.

Fe fydd y gadair a'r goron yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 12 Mehefin tan 2 Awst.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae'r goron yn cael ei rhoi gan Brifysgol Caerdydd - gyda gwobr ariannol gan Manon Rhys a Jim Parc Nest - am gasgliad o gerddi dan y teitl Olion.

Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies yw'r beirniaid.

Fe enillodd Laura Thomas y cyfle i greu'r goron ar 么l dod i'r brig mewn cystadleuaeth a gafodd ei threfnu gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'n adnabyddus am greu darnau gwaith parquet ac mae'r goron yn cynnwys dros 600 o arwynebau pren chweochrog.

"Rydw i wrth fy modd gyda'r gwahanol raenau a'r lliwiau cyferbyniol," meddai am y dechneg, gan ychwanegu ei bod "wastad wedi mwynhau gweithio gyda phren" yn rhannol ar 么l gwylio'i thaid, Jack Owen, yn cerfio anifeiliaid bach o bren solet a haenog.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Fe gafodd gymorth gan staff ysgolion Pensaern茂aeth, Peirianneg a Chemeg Prifysgol Caerdydd i greu nifer o batrymau geometregol unigryw ar gyfer y goron.

"Mae pum math o argaenau pren a dorrwyd yn fanwl gywir, wedi'u gosod 芒 llaw mewn arian sydd wedi'i strwythuro mewn modd geometrig, cyn eu cyd-osod i greu'r strwythur.

"Roeddwn am i'r goron adlewyrchu'r defnydd o argaenau cynaliadwy sy'n adleisio datblygiad parhaus technolegau cynaliadwy yn ardal Caerdydd - megis cynhyrchu p诺er sy'n seiliedig ar fio-m脿s."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Wrth noddi'r gadair i ddathlu pen-blwydd Sain Ffagan yn 70 oed, roedd Amgueddfa Cymru'n awyddus i weld cysylltiad rhwng y dyluniad a'r safle.

Cafodd Chris Williams, sy'n byw yn Pentre, ei ysbrydoli gan ffurf rhai o'r cadeiriau yng nghasgliad yr amgueddfa, ac un yn arbennig a gafodd ei gwneud yn Nhrealaw, nid ymhell o'i weithdy yn Ynyshir.

'Modern a thraddodiadol'

Dywedodd: "Mae'r dyluniad yn fodern gyda chyffyrddiadau traddodiadol, ond eto mae iddi bresenoldeb cadair seremon茂ol, diolch i elfennau megis sedd lydan a throm, breichiau agored a chefn uchel."

Mae gan y gadair sedd a chefn o bren llwyfen, a choesau a breichiau o bren onnen.

Mae'r sedd a'r cefn wedi'u hengrafu 芒 phatrwm gwl芒n traddodiadol sy'n seiliedig ar garthen yng nghasgliad Sain Ffagan - carthen a wehyddwyd ym Melin Wl芒n Esgair Moel, un o'r adeiladau cyntaf i gael ei ail-godi yn yr Amgueddfa Werin ym 1952.

Fe gafodd nifer o'r darnau eu creu 芒 llaw gan ddefnyddio offer traddodiadol, ond fe ddefnyddwyd peiriant laser i engrafu'r patrwm arni.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cafodd darnau o'r gadair eu creu mewn adeilad pwrpasol newydd yn Sain Ffagan - Gweithdy - sy'n rhoi cyfle i bobl gael profiadau uniongyrchol o sgiliau traddodiadol crefftwyr ddoe a heddiw.

Yn Gweithdy, mae Chris wedi bod yn arddangos ac yn rhannu'r broses o greu'r Gadair gydag ymwelwyr - rhywbeth newydd yn hanes creu cadair y Brifwyl.

Mae'r gadair yn cael ei chynnig am awdl o dan y teitl Porth. Y beirniaid yw Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.

Bydd enillydd y gadair hefyd yn derbyn gwobr ariannol gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch Beca.

Wrth dderbyn y goron a'r gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Ashok Ahir: "Mae'r seremon茂au'n ddwy o uchafbwyntiau'r wythnos, ac rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y goron a'r gadair yma yng Nghaerdydd ymhen rhai wythnosau."

Bydd seremoni'r coroni ddydd Llun 6 Awst a seremoni'r cadeirio ddydd Gwener 10 Awst yn y Pafiliwn, Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru.