大象传媒

Yr Odliadur: Dathlu deugain mlynedd o odli

  • Cyhoeddwyd

Pan gafodd Yr Odliadur ei gyhoeddi gyntaf yn 1978, cafodd ei ddisgrifio gan T Llew Jones fel:

Odliadur di-ail ydyw

Mawr ei werth i'r Cymry yw.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae'n parhau yn adnodd hanfodol i'n beirdd, fel sy'n cael ei egluro yn y rhaglen Yr Odliadur ar 大象传媒 Radio Cymru.

Byddai mynd ati i lunio rhestr o odlau, yn nhrefn yr wyddor, yn eithaf hawdd y dyddiau yma, mae'n si诺r, gyda'r dechnoleg sydd ar gael.

Ond roedd hi'n llawer anoddach yn 1978, fel yr eglura Elan Closs-Stephens, gweddw Roy Stephens, y g诺r a greodd Yr Odliadur gwreiddiol.

"Roedd gan Roy ddau gariad mawr - mathemateg a'r cynganeddion," meddai. "Cafodd y syniad y byddai'n gallu defnyddio ei allu cyfrifiadurol i wneud rhywbeth o gymorth i feirdd Cymru.

"Ond bryd hynny doedd yna ddim rhaglenni - fo oedd yn gorfod sgrifennu'r rhaglen. Ei sylfaen oedd ail-osod Y Geiriadur Mawr, ac yna ychwanegu mwy o eiriau."

Mae Alan Llwyd yn cofio Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978 pan gafodd y llyfr ei lansio, ac roedd i'w weld ym mhob man, o dan geseiliau pawb.

"Roedd y beirdd yn aros amdano fo," meddai'r prifardd. "Gallwch wneud pob math o bethau gydag odlau. Mae o'n rhan o'n traddodiad ni - cywrain a soffistigedig.

"Mae odl yn ein cynganeddion, ac mae rhannau o'n vers libre ni'n odli, a rhywbeth Cymreig ydy hynny."

Mae Mererid Hopwood yn cytuno, ac yn dweud fod odl yn rhywbeth dwfn a greddfol.

"Mae odli'n rhoi boddhad a rhoi clo twt i ddiwedd llinell - mae e fel Amen ar y diwedd," meddai.

"A ti'n gwrando a disgwyl beth ddaw. 'Sa fe'n gymaint o drueni tasai Jac y Do yn eistedd ar ben... ffenest!"

Adnodd hanfodol i feirdd (a phrifeirdd)

Mae Mererid, fel nifer i fardd arall, yn defnyddio'r Odliadur yn gyson wrth farddoni.

Sonia John Gwilym Jones ei fod, wrth lunio englynion weithiau, "yn sylweddoli mor dlawd yw'n nychymyg i! Weithiau mae gair o'r rhestr yn llwyddo i gyfoethogi'r gerdd, neu hyd yn oed yn newid ei gyfeiriad yn gyfangwbl."

Ond mae'n debyg fod Gerallt Lloyd Owen, Meuryn Talwrn y Beirdd am dros 30 mlynedd, ddim yn hapus iawn pan oedd beirdd yn dod 芒'u copi gyda nhw i ymryson.

Dechreuodd rhai beirdd ei guddio drwy ei lapio mewn papur brown...

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pedwerydd argraffiad - Tachwedd 1995

Erbyn 2001 roedd pump argraffiad wedi bod ohono, ac yn 2008, Alan Llwyd gafodd ei gomisiynu i addasu'r fersiwn wreiddiol.

Mae Yr Odliadur Newydd yn cynnwys holl eiriau Roy Stephens, a thros 5,000 o eiriau ychwanegol wedi eu casglu gan Alan.

Cyfrifiadur ddefnyddiodd Roy, ond ei ymennydd oedd prif declyn Alan Llwyd - aeth drwy'r holl restrau ac meddwl o ddifri' pa eiriau oedd ar goll.

"'Do'n i'm isho dim byd rhy arbenigol a dim termau rhy wyddonol, na fyddai lawer o fudd i'r beirdd. Felly ro'n i isho geiriau naturiol, 'dan ni yn eu defnyddio pob dydd.

"Mae o'n barh芒d o Odliadur Roy - ei ehangu 'nes i, er mwyn ei wneud yn fwy gwerthfawr byth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyflwynydd rhaglen Yr Odliadur, Ceri Wyn Jones, yn cyfweld ag Alan Llwyd

Bu farw Roy Stephens yn 1989, ond mae'n amlwg fod ei rodd i lenyddiaeth Cymraeg yn parhau yn un pwysig.

"Dwi'n credu be' fydda' fo wedi bod mwya' balch ohono yw fod Yr Odliadur wedi helpu i agor y maes cynganeddol i fwy o bobl," meddai Elan Closs-Stephens.

"Roedd 'na ryw syniad yn y 60au/70au bod o'n gyfrinach a bron bod rhaid eich bod chi wedi cael eich geni i deuluoedd arbennig cyn cynganeddu'n llwyddiannus. Roedd eisiau ymestyn cyfoeth a hwyl y gynghanedd i gymaint o bobl 芒 phosib."

Mi lwyddodd - ac mae'n amlwg fod llawer o'n beirdd ni hyd heddiw, pan mewn cyfyng-gyngor, yn dal i 'droi at Roy'.

Mae enw 'da ambell i foi

Na ellir ei odli fe'n gloi

'Mond geirie fel "heathens"

Sy'n odli 'da Stephens

Ond hawdd ydy odli 'da Roy. - John Gwilym Jones