大象传媒

Estyn: 'Rhieni'n dewis rhwng gofal plant ac addysg'

  • Cyhoeddwyd
plant yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai polisi gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru arwain at lai o blant yn dechrau addysg yn gynnar, yn 么l yr arolygiaeth ysgolion.

Mae plant tair a phedair oed gyda rhieni sy'n gweithio yn gymwys am 20 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, ar ben y 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar.

Ond oherwydd bod y gofal a'r addysg fel arfer yn cael eu darparu mewn llefydd gwahanol, mae Estyn yn pryderu y bydd rhieni ond yn dewis yr 20 awr o ofal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd unrhyw "dystiolaeth gadarn" fod y polisi'n arwain at lai yn cymryd llefydd addysg gynnar.

'Anymarferol'

Mae'r polisi 30 awr yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn saith awdurdod lleol ac mae'r llywodraeth yn dweud y bydd ar gael ar draws Cymru erbyn 2020.

Dywedodd Estyn wrth bwyllgor plant y Cynulliad y gallai un "canlyniad anfwriadol" o'r polisi olygu bod llai yn dewis dilyn addysg 'cyfnod sylfaen'.

Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael eu haddysg gynnar mewn ysgol, ond i'r rhan fwyaf, fe fydd y gofal plant yn digwydd rhywle arall.

Dywedodd Jane Rees o Estyn fod problemau ymarferol yn gallu arwain at rieni'n gorfod dewis rhwng addysg a gofal plant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedod Janes Rees bod rhieni weithiau'n gorfod dewis rhwng addysg neu ofal am ddim

"Ein pryder ni yw nad ydyn nhw'n cymryd rhan 'cyfnod sylfaen' y cynnig, yn enwedig os yw ar ddau safle gwahanol," meddai.

"Ar hyn o bryd, mae llawer yn dewis y 'cyfnod sylfaen' achos i rieni sy'n meddwl am ddychwelyd i'r gwaith, mae ganddyn nhw o leiaf 10 awr o addysg wedi'i gyllido i'w plentyn.

"Ond os yw hynny'n cael ei gyfuno gydag 20 awr o ofal plant, fe allai rhieni, os yw'n anymarferol iddyn nhw gael y ddarpariaeth gofal yn ogystal 芒'r addysg, orfod gwneud penderfyniadau.

"Ac un o'r penderfyniadau hynny o bosib fyddai eu bod nhw'n dewis y gofal plant am ddim ond nid yr elfen addysg."

'Llai yn dewis gofal'

Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywedodd Estyn fod pryderon hefyd bod nifer y meithrinfeydd oedd yn cynnig y 'cyfnod sylfaen' yn gostwng oherwydd y gwahaniaethau cyllid.

"Gan fod elfen gofal plant y cynnig yn cael ei gyllido ar gyfradd uwch, rydym yn bryderus y gallai lleoliadau benderfynu cynnig yr elfen gofal plant yn unig," meddai'r arolygiaeth.

"Gallai hyn gael effaith ar ddewis rhieni os oes llai o lefydd yn cynnig yr addysg am ddim.

"Os nad yw plant yn cael yr addysg am ddim o safon uchel sy'n ddyledus iddyn nhw, gallai hynny effeithio'n negyddol ar ddatblygiad y plentyn.

"Mae Estyn yn pryderu nad yw ysgolion wedi cael digon o gyfleoedd i drafod y cynnig yn llawn."

Mae llai na'r disgwyl wedi cymryd y cynnig o ofal plant am ddim, gyda'r trafferthion wrth ganfod gofal sy'n cyd-fynd 芒 darpariaeth addysg yn un rheswm posib.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth gadarn i awgrymu bod gweithredu'r Cynnig Gofal Plant yn arwain at lai yn dewis llefydd addysg gynnar 'Cyfnod Sylfaen'.

"Fodd bynnag byddwn yn parhau i fonitro unrhyw effaith bosib wrth i'r Cynnig Gofal Plant gael ei brofi a'i ddatblygu."