Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gorymdeithio drwy Gaerdydd i gofio pleidlais i ferched
Mae menywod o bob oed wedi bod yn cyd-gerdded yng Nghaerdydd a chreu "baner dorfol" i nodi 100 mlynedd ers i ferched gael yr hawl i bleidleisio.
Yn 么l y trefnwyr y bwriad yw creu'r "celf byw" yn y brifddinas, gyda digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Llundain, Caeredin a Belfast.
Cyn y daith - sydd tua dwy filltir o hyd - cafodd y rhai sy'n cymryd rhan sgarff werdd, wyn neu fioled i'w gwisgo er mwyn creu rhubanau o liw.
Dyma oedd lliwiau gwreiddiol y swffragetiaid.
Yn ogystal fe wnaeth nifer o grwpiau ddod 芒 baneri eu hunain gyda negeseuon gwahanol arnynt.
Mae rhwng 10 a 15 o grwpiau yng Nghymru wedi creu baneri 芒 llaw gydag artistiaid lleol gan gynnwys Oriel Myrddin, Theatr Clwyd, Cymorth i Ferched Cymru a Chanolfan Gelfyddydol Aberystwyth.
Yn dilyn yr orymdaith dywedodd un o'r trefnwyr, Elin Rees: "Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus iawn.
"Mae wedi bod yn hyfryd gweld y piws, gwyn a gwyrdd yn dod heibio'r castell gyda phawb yn cael amser mor dda i nodi achlysur mor bwysig.
"Mae menywod o bob oed a chefndir wedi dod at ei gilydd heddiw i ddathlu ac i greu hanes."
"Pwrpas y baneri yma yw bod e'n rhywbeth i efelychu'r gwaith o'dd y suffragettes cynnar yn arfer 'neud a'r baneri ro'n nhw yn creu," meddai Catrin Owen o gwmni Artichoke wrth 大象传媒 Cymru Fyw.
"Ond hefyd mae'n rhywbeth visual i ddangos beth mae'n meddwl i fod yn fenyw neu'n ferch heddiw ym Mhrydain."
Cwmni Artichoke mewn partneriaeth 芒 G诺yl y Llais a Chanolfan Mileniwm Cymru sy'n cynhyrchu'r digwyddiad am ddim, ac 14-18 NOW sydd wedi'i gomisiynu.
Efallai o ddiddordeb...
Fe wnaeth yr orymdaith ddechrau y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd, gan orffen ym Mharc Bute, gydag adloniant ar hyd y ffordd gan gynnwys corau a bandiau pres.
Yn 么l Ms Owen mae'n bwysig cynnal digwyddiad o'r fath i ddiolch am yr hyn mae menywod yn y gorffennol wedi ei wneud, a hefyd ystyried beth yw'r sefyllfa heddiw.
"Mae'n bwysig i ni fel t卯m cynhyrchu i greu rhywbeth i ddathlu ond hefyd creu moment i feddwl am faint o waith sydd dal i'w wneud er mwyn gwneud yn si诺r bod gyda menywod hawliau cyfartal ym Mhrydain, nid jyst yn ymwneud gyda phleidleisio ond hawliau bob dydd."
Ei gobaith yw y bydd merched yn dod at ei gilydd.
"Fi'n credu yn y flwyddyn ddiwethaf gyda symudiadau Me Too a Time's Up a gweld gymaint o broblemau sydd dal yn wynebu menywod heddiw, mae wir yn bwysig bod 'na rhywbeth i uno menywod a rhoi cyfle i ni ddathlu ond hefyd trio gwella pethau."
Mae nifer o fenywod amlwg yn llysgenhadon yn yr orymdaith, gan gynnwys yr academydd a chyn b锚l-droediwr Laura McAllister, y gantores Lisa J锚n a'r newyddiadurwr a darlledwr Carolyn Hitt.
Dim ond menywod, merched a rhai sy'n diffinio'u hunain yn fenywod sydd yn cymryd rhan ac mae'r trefnwyr eisiau annog plant, neiniau, ffrindiau a chwiorydd i ymuno.
Er hynny nid y bwriad yw dieithrio dynion, meddai Catrin Owen: "Y syniad yw bod ni'n trio creu darn o waith celf dorfol, sy'n cynnwys menywod yn unig.
"Bydden ni'n dwli bod dynion yn dod i gefnogi ar y dydd trwy fod bron yn gynulleidfa i'r procession.
"Bydden ni'n dwli gweld dynion ar y stryd yn dathlu a chefnogi eu gwragedd, eu plant a'u ffrindiau.
"Dyw e ddim cymaint amdano excludo dynion. Mae e fwy amdano creu cyfle arbennig i fenywod."