UNESCO yn cydnabod ysgrif Cymraeg o'r 16eg Ganrif
- Cyhoeddwyd
Fe fydd ysgrif gan Gymro o'r 16eg Ganrif yn cael ei chydnabod gan gorff treftadaeth y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.
Mae Cronicl Elis Gruffydd un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol.
Cafodd y gwaith ei ysgrifennu yn y Gymraeg gan Elis Gruffydd rhwng 1550 a 1552, pan oedd yn filwr oedd yn rhan o warchodlu byddin Lloegr oedd wedi'i leoli yn Calais.
Mae'r cronicl yn s么n am hanes y byd o'r dechrau hyd at ddyddiau'r awdur, ac yn cynnwys ffeithiau hanesyddol, chwedlau traddodiadol o Gymru, a hanesion o gyfnod y Tuduriaid.
Clecs am Harri VIII
Yn 么l Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'r cronicl yn "gampwaith" ond mae wedi mynd "braidd yn anghofiedig" ymhlith y Cymry.
"Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw'r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i'w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma'r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith," meddai.
"Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i'r Deyrnas Gyfunol - er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau'r Deyrnas Gyfunol ar y pryd."
Cafodd Elis Gruffydd ei eni tua 1490 ym mhlwyf Llanasa, Sir y Fflint, ac roedd yn Babydd cyn troi'n Brotestant pybyr yn ei gyfnod yn Calais.
Bu'n ymladd dros fyddin Lloegr yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Sbaen cyn symud i Calais, oedd dan feddiant Coron Lloegr ar y pryd, yn 1530.
Yno yr ysgrifennodd Elis Gruffydd ei gronicl, oedd yn cynnwys llawer o'i brofiadau personol yn ymladd fel milwr, yn ogystal ag adroddiadau llygad dyst o ddigwyddiadau megis cyfarfyddiad enwog Harri VIII a Ffransis I o Ffrainc yn 1520.
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys clecs gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain ar faterion megis perthynas Harri VIII ac Anne Boleyn, a gwybodaeth am gwymp Thomas Cromwell.
Does dim gwybodaeth bendant am ei farwolaeth, ond mae'n bosib iddo gael ei ladd pan gipiwyd Calais gan y Ffrancwyr yn 1558.
Bydd ei Gronicl yn cael ei ddangos i'r cyhoedd yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 30 Mehefin a 8 Rhagfyr fel rhan o arddangosfa o drysorau Plasty Mostyn, Sir y Fflint.