Trosglwyddo rheolaeth G诺yl S诺n i Glwb Ifor Bach
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Ifor Bach wedi cyhoeddi mai nhw fydd nawr yn gyfrifol am drefnu G诺yl S诺n yng Nghaerdydd.
Bydd yr 诺yl gerddoriaeth, sy'n cael ei chynnal yn nifer o leoliadau ar draws y brif ddinas, yn dychwelyd ym mis Hydref, ond y tro yma dan reolaeth newydd.
Daw'r newyddion wrth i'r 诺yl gyhoeddi'r artistiaid cyntaf fydd yn rhan ohoni eleni, sy'n cynnwys s锚r fel Gwenno, Boy Azooga a Drenge.
Dywedodd prif weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan mai dyma oedd y cam naturiol i'w gymryd er mwyn gallu "parhau i dyfu".
Cafodd G诺yl S诺n ei ffurfio gan y DJ Huw Stephens a John Rostron yn 么l yn 2007, a dyma oedd yr 诺yl gerddorol aml-leoliad gyntaf ym Mhrydain tu allan i Lundain.
Dros y degawd diwethaf mae nifer o fawrion wedi chwarae fel rhan o'r 诺yl gan gynnwys The Vaccines, Alt-J, Disclosure a Ben Howard.
Dywedodd Mr Rostron eu bod nhw wastad wedi rhagweld y bydden nhw'n symud yr 诺yl ymlaen i rywun o fewn y gymuned gerddorol yng Nghymru.
"Mae hi'n andros o gyffrous i allu camu i ffwrdd, a gwybod y bydd S诺n yn parhau i ddatblygu dan reolaeth newydd," meddai.
"Heb os bydd hi'n rhyfedd mynychu'r 诺yl heb weithio ond dwi'n edrych ymlaen at weld gymaint o artistiaid a phosib".
'Cam amlwg'
Dywedodd Mr Brychan bod Clwb Ifor Bach wedi bod yn cynnal digwyddiadau mewn lleoliadau i ffwrdd o'r prif safle ar Stryd Womanby ers tro.
"Mae cynnig llwyfan i artistiaid newydd a datblygu ffyrdd newydd i'w meithrin nhw yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud," meddai.
"Pan soniodd John [Rostron] am y posibilrwydd o gymryd rheolaeth o S诺n, dyma oedd y cam amlwg i'w gymryd er mwyn i ni allu parhau i dyfu."
Bydd yr 诺yl, sydd bellach yn ei 12fed flwyddyn, yn cael ei chynnal rhwng 17-20 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018